HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ynys Llanddwyn 7 Rhagfyr



Pan ddaeth un ar hugain ohonom i’r maes parcio ger Llyn Rhosydd roedd hi’n bwrw glaw, a hwnnw’n ‘law sy’n gwlychu’, ac felly cychwynnwyd cerdded mewn dillad glaw. Ond, cyn pen dim, peidiodd y glaw a chawsom ddiwrnod o dywydd arbennig o garedig: dim glaw, dim awel o wynt, dim niwl — ac ychydig o heulwen ac awyr glir i ni allu gweld mynyddoedd Eryri dan orchudd o eira, ac amlinelliad Arfon a Phenrhyn Llŷn yn amlwg o’n blaenau.

Cawsom gip i ddechrau ar safle Llys Rhosyr ac atgoffa ein hunain o hanes un o’r mannau lle byddai Llywelyn Fawr, ei fab Dafydd a Llywelyn ein Llyw Olaf yn eu tro yn cyfarfod yn y drydedd ganrif ar ddeg pan oeddent yn ymweld â Chwmwd Menai. Yna dilyn llwybr y postmon pan gludai lythyrau o Niwbwrch i drigolion Ynys Llanddwyn, bron i dair milltir o daith trwy’r twyni tywod. Bellach mae’r twyni wedi eu gorchuddio â choed i geisio lleihau symudiad y tywod, a llawer llai o gwningod yn byw yn y gwningar nag a fyddai yn y dyddiau cyn micsamatosis y 50au.

Roeddem wedi sicrhau bod y môr ar drai, ac nad oedd dim i’n rhwystro rhag mynd a dod i’r Ynys heb wlychu ein traed, a dyna’r rheswm dros wneud y daith yn gynnar yn y mis. Cawsom ginio yn eistedd ar y waliau isel sy’n amgylchynu y bythynnod lle cartrefai peilotiaid afon Menai a Cheidwaid y Goleudy o tua 1830 i 1970; a daeth yr haul i’n cyfarch i sicrhau ein bod yn bwyta mewn tywydd braf ac yn gallu mwynhau yr olygfa hudolus o Ynys Santes Dwynwen. Pa ryfedd i Syr Dafydd Trefor yn y bymthegfed ganrif gyfansoddi cywydd i’r lle?

Santes ym mynwes Menai
A’i thir a’i heglwys a’i thai
Ffynhonnau gwyrthiau dan go
Oer yw’r dyn ni red yno.

Daethom yn ôl dros draeth Llanddwyn a dilyn llwybrau bychain oedd yn cuddio yn y coed, gan gwblhau taith gylch. Ac, i rai ohonom, bu paned o de neu goffi yng Nghaffi Taclau Taid yn Niwbwrch yn ddiwedd dymunol i’n wyth milltir, fwy neu lai, o gerdded hawdd.

Diolch am gwmni Alun, Aneurin, Ann (Coleman), Arwel, Arwyn, Dewi, Dilys, Eirian, Gwenan, Gwil, Haf, John Arthur, Mags, Meirion, Merfyn, Nia Wyn, Nia Wyn (Seion), Rhodri, Susan, a Wini.

Adroddiad gan Gareth Tilsley

Lluniau gan Gareth ag Arwyn ar FLICKR