HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Lliwedd a Gallt y Wenallt 8 Hydref


Taith oedd hon i rannu dathliad yng nghwmni Iolyn ar achlysur dringo ei ganfed copa eleni ac yntau’n 80 oed. Yno, i rannu’r dathliadau efo Iolyn oedd: Eirlys; Nia; Eryl; Gwyn Chwilog; Rhiannon James; Gwyn Llanrwst; John Arthur; Dwynwen; Gerallt; Margiad; Siân; Nia Wyn; John Parry; Heulwen; Cheryl; Richard.

Roedd yr haul yn gwenu wrth i ni gychwyn ar hyd Llwybr Watkin, o oedd yn gymharol dawel gan fod y ffordd rhwng Pen-y-Gwryd a Nant Gwynant wedi’i chau oherwydd tirlithriad diweddar.

Cafwyd hoe ym Mwlch Ciliau cyn cerdded a sgrialu’n ffordd i gopa’r Lliwedd. Yno yn ein disgwyl oedd un o ffotograffwyr y clwb i gofnodi’r achlysur. Roedd GP yn awyddus i dynnu’r llun tra roedd yr haul yn gwenu a bu rhaid iddo godi mymryn ar ei lais i gael trefn ar y grŵp anystywallt a oedd yn siarad, yn symud o gwmpas ac yn chwerthin yn lle gwrando ar ei gyfarwyddiadau. Cafwyd trefn o’r diwedd a chafodd y llun ei dynnu cyn i ni wylio neges ar ffilm gan Dewi Prysor drwy gyfrwng ffôn GP i longyfarch Iolyn ar ei gamp.

Tra’n bwyta cinio, sylweddolodd Rhiannon ei bod wedi gadael ei ffôn yn rhywle yn ymyl y chwarel ar Lwybr Watkin ac mi aeth hi yn ei hôl i’r un cyfeiriad i chwilio amdano yng nghwmni John a Nia.

Cychwynodd y gweddill ohonom ar hyd y grib i gopa tawel Gallt y Wenallt gan fwynhau golygfeydd godidog i bob cyfeiriad a gweld neb arall!

I lawr â ni wedyn i Gwm Merch cyn ailymuno â Llwybr Watkin ac yna ymgynnull, drwy wahoddiad caredig Iolyn ac Eirlys, yng Nghaffi Glaslyn Beddgelert i fwynhau swper.

Diolch i bawb am eu cwmni difyr a llongyfarchiadau mawr i Iolyn.

Adroddiad gan Richard

Lluniau gan Gerallt a Richard ar FLICKR