Bannau Sir Gâr 8 Hydref
Daeth 13 aelod at ei gilydd, yn cynnwys un newydd, ar gyfer y daith ar fore bendigedig o hydref. Parcio ar bwys Tafarn y Garreg, Glyntawe ar y A4067. I ddechrau, aethom i fyny, ac ar hyd, Fan Hir; ac mae yn hir! Roedd yr ardal yn anghyfarwydd i nifer o'r aelodau ac roedd sawl un wedi'u syfrdanu gan y golygfeydd gwych. Roedd Pen y Fan a Chorn Du yn glir yn y pellter ac roedd hyd yn oed Benybegwn, draw ar y ffin, yn y golwg.
Cawsom saib bach wrth gyrraedd Bwlch Gïedd, uwchben Llyn y Fan Fawr.
Wedyn, esgyn eto i ben Fan Brycheiniog, lle edmygwyd y gwaith peintio ar y piler triongli sy'n datgan 'Yma o Hyd' a 'Cofiwch Eddie Butler'! Tybed pwy wnaeth y gwaith celf gwych hwn?
I lawr wedyn i Fwlch Blaen-Twrch ac i fyny i Bicws Du. Ymlaen ar hyd Bannau Sir Gâr, troi i'r gogledd ac wedyn i'r dwyrain i gyrraedd Llyn y Fan Fach. Aethom yn agos iawn i'r man lle roedd y cerddor ifanc Sheku Kanneh-Mason wedi eistedd i chwarae 'Myfanwy' ar y soddgrwth. Mae'n werth gwylio'r fideo ar YouTube.
Cawsom ginio ar bwys Llyn y Fan Fach a rhyfeddu ar lefel isel y dŵr yn dilyn haf sych iawn eleni. Wedyn dilyn godre Bannau Sir Gâr, Fan Brycheiniog a Fan Hir yn ôl i'r man cychwyn.
Taith weddol hir, tua 13 milltir gyda chryn dipyn o esgyn, ond yn bleser mawr yn y tywydd hyfryd.
Croeso arbennig i Emyr Roberts ar ei daith gyntaf. Y cerddwyr eraill oedd Dewi, Pwt, Pens, Elin, Rhun, Rowena, Richard, Eurig, Meirion, Bruce, Helen a Digby.
Adroddiad gan Digby Bevan
Lluniau gan Dewi ar FLICKR