Crib Penmaen Bach a Mynydd y Dref 9 Ebrill
Penmaenbach ydi’r mynydd uwchben yr A55 i’r gorllwein o Gonwy. Hen lwmp o garreg galed a gymerodd nifer o ymdrechion i adeiladu ffyrdd drwyddi o Thomas Telford yn 1830 at y twnel diweddaraf a agorwyd yn 1989.
Mae’r grib yw gweld yn glir i’r de o’r ffordd wrth i chwi deithio i gyfeiriad Bangor. Dyma ein nôd am y diwrnod. Cyfarfod ym Mhen Sychnant a cherdded dros hen gaer Allt Wen ac i lawr drwy goed Pendyffryn at waelod y grib. Paned sydyn a chychwyn ar y sgrambl.
Y darn cyntaf ychydig yn serth ond roedd y graig yn sych. Seibiant hanner ffordd cyn y darn mwyaf heriol. Camu ychydig i’r chwith ac yna croesi i fyny i’r dde yn ôl at y grib.
Y grib rwan yn llai serth a buan yr oeddem ar gopa Penmaenbach yn cael ein cinio.
Draw wedyn at Fynydd y Dref cyn dychwelyd at y ceir.
Diwrnod braf a chwmni difyr. Diolch Dafydd, Elen, John Arthur, Rhian, Siân a Sue am eu cwmni.
Adroddiad gan Arwel
Lluniau gan Arwel ar FLICKR