HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Fan Gyhirych 9 Gorffennaf


Daeth deg dewr i ddechrau’r daith gerllaw Tafarn y Garreg ar ddiwrnod godidog o haf; prin y gellid bod wedi deisyf tywydd gwell. Y deg oedd: Bruce, Pens, Pwt, Meirion, Eurig, Padi, Dewi, Rhun, Mitch ac Elin. Arweinydd y daith oedd Bruce, y mae Fan Gyhirych yn lle arbennig iawn iddo oherwydd ei hygyrchedd o’r ffordd fawr a’r ffaith na welir y tyrfaoedd sydd ar gopaon mwy poblogaidd y Bannau.

Ar ôl gwasgu drwy gatiau mochyn Eglwys Ioan Fedyddiwr, Pen-y-Cae, mwynhau aroglau gwair newydd ei ladd yn crasu yn yr haul ac edmygu geifr Fferm Pwllcoediog, i fyny â ni a chyrraedd Twyn Disgwylfa. Yma, ymuno â llwybr yr hen reilffordd a arferai gludo carreg calch o chwareli Penwyllt i Aberhonddu, lle câi ei ddosbarthu i’r ffermwyr lleol. Cerddon ni ar hyd y llwybr hwn am rai milltiroedd nes cyrraedd Bwlch Bryn-rhudd, man cychwyn y llwybr serth sy’n arwain i gopa Fan Gyhirych ei hun. Dyma her fawr y dydd; yn wir, her y flwyddyn hyd yma (hyd yn oed i’r rhai a fu’n cerdded yn y gogledd ganol mis Mehefin), gyda’r llwybr yn teimlo fel petai ar oledd o 45° ar adegau.

Cafwyd cinio ar y copa; roedd y piler triongli’n ymddangos fel petai wedi cael ei beintio’n ddiweddar, gyda’r geiriau ‘Yma o hyd’ ar un ochr a ‘Cymru am byth’ ar un arall. A hithau’n ddiwrnod clir, roedd y gorwelion yn bell a chopaon uchel y Bannau, y Mynydd Du, Môr Hafren, a rhai o fryniau Lloegr i’w gweld. Yn ôl Y Llyfr Enwau gan D. Geraint Lewis, daw’r elfen Cyhirych yn Fan Gyhirych o’r Wyddeleg ‘cireach’, a’i ystyr yw ‘crib’ neu ‘frig’, felly Mynydd y Grib, er bod awgrym hefyd y gallai fod yn enw nant, o ‘cyhir’. Fforest Fawr yw’r enw ar yr ucheldir hwn, a’r gair ‘fforest’ wedi’i ddiffinio’n gyfreithiol yn ardal wedi’i neilltuo ar gyfer hela brenhinol ar ôl Concwest y Normaniaid. Byddai’r dyffrynnoedd wedi bod yn fwy coediog nag y maen nhw heddiw, ac yn ddelfrydol i geirw ac ati.

I lawr â ni o’r copa a draw i Fan Fraith, dilyn wal a oedd wedi’i dymchwel yn rhannol a goresgyn ambell rwystr cyn ymuno â Ffordd y Bannau a thrwy warchodfa natur Ogof Ffynnon-ddu. Arhoson ni am ychydig i weld y palmant calchfaen sydd yno a mynd i lawr wedyn i bentref Penwyllt. Roedd yr ardal hon yn fwrlwm yn ystod y chwyldro diwydiannol gyda gwaith brics, chwareli, tramffyrdd a rhes o dai teras i’r gweithwyr a’u teuluoedd sydd bellach yn ganolfan i Glwb Ogofa De Cymru.

Rhyw filltir o daith yn ôl i’r ceir oedd wedyn, gyda geifr Fferm Pwllcoediog yn dal i orweddian yn swrth yn y gwres, drwy’r gatiau mochyn ac yn ôl i Dafarn y Garreg, lle gwyliodd rhai o’n plith dîm Cymru yn curo De Affrica.

10.2 milltir – 2100’ o esgyniad – 6 awr a hanner.

Adroddiad gan Elin

Lluniau gan Dewi ar FLICKR