Waun Oer, Cwm Ratgoed ac Aberllefenni 11 Gorffennaf

  
Bu  i saith ohonom, sef Eryl, Erddyn, David Levi, Mark, Ann Till, Iolyn a minnau  gyfarfod ym Mwlch Llyn Bach erbyn 9:15.   Dechreusom trwy groesi’r ffordd fawr a cherdded i fyny yn eithaf serth  tuag at y grib sydd yn arwain at Fynydd Ceiswyn. ‘Roedd y tywydd yn berffaith,  yn braf ond heb fod yn rhy boeth a Chraig Amarch, copa Pen y Gadair a Mynydd  Moel i’w gweld yn glir. Ymlaen ar hyd y grib dros Fynydd Ceiswyn at gopa Waun  Oer, ble y cawsom egwyl i fwynhau’r golygfeydd i’r de ac i’r gogledd.
      
Yn serth i lawr wedyn i Fwlch y Gigfran, cyn  codi eto i ben Cribin Fawr ac oddi yno croesi ar draws y tir mawnog i gopa  Craig Portas. Oddi yno roeddem yn gallu gweld prysurdeb y traffig ar y A470 a ninnau  heb weld unrhyw un arall ar y mynydd o gwbl! Er mwyn cwblhau pedol Cwm Ceiswyn, rhaid oedd cerdded dros Fynydd Dolgoed ble ‘roeddem yn gallu gweld ehangder y  tiroedd sydd wedi, neu oedd, wedi eu gorchuddio gan goedwigaeth, i’r de ohonom.  Cawsom ginio ar Fynydd Dolgoed gan fwynhau y golygfeydd, y tawelwch yr heulwen  a’r awel.
Yna ‘roedd yn amser disgyn i lawr i Gwm  Ratgoed a chael gweld tŷ hynafol Dolgoed ble y  cafwyd sgwrs gyda’r perchennog. Ymlaen wedyn i weld Plas Ratgoed, sydd angen  llawer o waith atgyweirio arno erbyn hyn. Pawb yn chwerthin am ben yr hen  arwydd iechyd a diogelwch “dwyieithog” ond gyda chyfieithiad Cymraeg sobr o  wael gerllaw! Gwelsom hefyd, olion eraill oes y diwydiant llechi; stablau,  siediau gwaith, tai gweithwyr a chapel. Cerdded ymlaen am Aberllefenni gan  obeithio gallu ymuno â’r llwybr ond ‘roedd y  llwybr cyswllt iddo wedi cau hefo tyfiant, felly dilyn y ffordd oedd raid!  Blwyddyn yn ôl cefais y fraint o gael  mynd ar daith o amgylch Cwm Ratgoed gyda Nia Edwards sydd yn byw yn  Aberllefenni ac roedd wedi dangos mannau o ddiddordeb a sôn wrthyf am hanes yr ardal. ‘Roedd Nia a Tom ei gŵr wedi gofyn i ni alw heibio ar ein taith. Wel sôn am groeso! Cawsom ddigonedd o baneidiau te a choffi,  diodydd oer, cacennau a sgons yn eu gardd fendigedig, gyda Rhydian y mab yn  gweini arnom mewn dull hwyliog iawn. Felly diolch o galon i Nia, Tom a Rhydian  am fod mor groesawgar a hael.
Bu  hyn yn gymorth i ni barhau â’r daith o bentref  Aberllefenni heibio chwareli llechi mwy, ar hyd llwybr hardd i fyny Cwm Hen-Gae  ond a oedd mewn mannau wedi ei amgylchynu gan redyn tal! Mae’r llwybr hwn yn  ymuno â’r ffordd sydd yn arwain  lawr am Gwm Hafod Oer, cyn y ddringfa olaf hir, serth i gopa’r bwlch. Rhaid  oedd dilyn y ffordd i lawr nes gallu ymuno hefo’r llwybr sy’n arwain yn ôl i ben Bwlch Llyn Bach. 
Diolch  i’r rhai a ddaeth ar y daith am fod yn gwmni difyr a hwyliog i Iolyn a minnau  yn ystod dydd.
Adroddiad  gan Eirlys.
    
Lluniau gan Eirlys ar FLICKR
