Moel Hebog 10 Medi
Criw o naw ohonom yn cychwyn o faes parcio Parc Cenedlaethol Eryri ger gorsaf trenau Ffestiniog ym mhentref Beddgelert ar fore heulog a chynnes. Roeddwn yn falch o groesawu Gwyn (Llanrwst), Richard, Elen, Nia, Emyr, Eifion, Iolo, a Gwyn(Deiniolen) gan fod y daith hon yn un o fy hoff ardaloedd.
Cychwyn fyny tu ôl i westy'r Afr Beddgelert ac yna camu'r hen linell trenau wreiddiol (Rheilffordd Ucheldir Cymru) trwy Coed Parc Cae-Morys a heibio'r fynwent blwyf sydd yn arwain i fyny am ardal Coed Bryn y Felin. Wrth gyrraedd yr hen lwybr porthmyn i fynd a ni, dros y Clogwyn a lawr i Gwm "Coch yn ofalus”, wrth gamu yn aradeg dros afon Goch. Ar ein pennau wedyn i Oerddwr Uchaf lle cafwyd paned wrth fanylu dros y lle y magwyd William Ffrances Williams, sef William Oerddwr. Wedi'r baned, ail ddechrau'r daith i gyrraedd copa cyntaf, sef Bryn Bannog ac yna toriad am ginio uwchben hen chwarel Gorseddau ac manylu dros y cyn pentref pwrpasol, sef Treforys, a bwrdd cinio, lle gaethom bron i olygfeydd o 360° o ben draw Llŷn, Eryri a draw lawr i waelodion hen sir Feirionnydd a’i chopaon pell.
Wedi cinio, ail dechrau'r rhan lawr o gopa Bryn Bannog a thrwy Gwm Cyd, dros "Yr Ogof" yn ddi-stŵr, cyn dechrau dringo yn ofnadwy o serth yn llefydd gyda ein dwylo ar yr “wal” i gyrraedd copa Moel Hebog; chydig o seibiant i ymdrochi yn yr olygfa unwaith eto wrth inni gael chydig o luniaeth a sgyrsiau hwylus. Darfod y daith wrth ddringo lawr y llwybr arferol i lawr ochr gogleddol Cwm Llwy, a nol i'r man cychwyn, a hufen ia haeddiannol a hynod o flasus i ddarfod y daith a diwrnod da.
Diolch i bawb am ddiwrnod pleserus dros ben.
Adroddiad gan Keith
Lluniau gan Richard, Keith ag Elen ar FLICKR