Ardal Crughywel - Mynydd Llangatwg 10 Rhagfyr
Cwrddodd un ar bymtheg ohonon yn maes parcio Crughywel ar fore gaeaf go iawn — oer a braf.Pedwar ar ddeg Hwntw, un Gog (Sian S.) a ffrind i mi o Gôr Meibion Mynwy, Darren Roberts, sy' newydd gerdded y Cambrian Way ac sy’n awyddus i ymarfer ei Gymraeg. Fel cyn Royal Marine a hyfforddiant meddygol, roedd e’n troi mas yn aelod defnyddiol iawn o’r grŵp cyn diwedd y daith…
Codon ni trwy bentref LLangatwg, gan ymweld ag Eglwys Catwg gyda chyffion y pentref yn hongian fel addurn ar y wal at y gamlas, heibio tystiolaeth diwydiannol yr ardal, megis odynau calch, cyn troi tua Mynydd LLangatwg a’r hen chwareli uwch ein pennau. Ar ôl pasio hen fynwent cholera a chodi trwy’r caeau ddaethon ni at bentref bach oedd yn arfer bod yn gartref i’r chwarelwyr. Ymlaen a ni, dros dir oedd wedi rhewi yn galed, heibio i’r chwareli calchfaen a sawl llyncdwll i ben y mynydd, sef Twr Pen Cyrn (529 m) gyda’i gernydd oes efydd ac olion cytiau crwn. Dros y rhostir wedyn i Graig Disgwylfa (The Lonely Shepherd) – piler o galchfaen tua chwe medr o uchder, sy i fod i gerdded lawr i’r afon ar Ŵyl Ifan i gael diod.
Ar ol cinio cyflym yn yr oerfel, mi ganlynon ni un o’r hen dramffyrdd ar hyd y chwareli i’r Gorllewin tuag at warchodfa natur Craig y Cilau. Ond yn anffodus iawn, ni chyrraeddom. Mi lithrodd Elin yn sydyn wrth groesi hen lôn llawn dŵr oedd wedi rhewi’n solid a syrthio ar ei gwyneb, gan brifo ei thrwyn a thori ei garddwn. Cafodd hi gymorth gyntaf proffesiynol iawn gan Darren yn y man a’r lle. Roedd hi’n ddewr iawn ac ar ôl saib bach roedd hi’n hapus i gerdded ymlaen. Serch hynny, penderfynon ni newid y daith a disgyn yn ôl i bentref Llangatwg, y ffordd gyflymaf — sef lôn tarmac. Daeth Nesta (gwraig Meirion) a Helen (gwraig Bruce) i gwrdd â ni mewn car yn y pentref a gyrru Elin yn ôl i’w gwesty yng Nghrughywel. Ddaeth ei gŵr, Andrew, lan o Abertawe i'w chludo hi adref wedi triniaeth yn Ysbyty Nedd Port Talbot (ar ôl bach o ffwdanu gan y gwasanaeth 111). Cafodd Elin blaster a chaniatad i hedfan i Fuerteventura am ei gwyliau nadolig drennydd!
Cyrraeddodd y gweddill ohonom ni Crughywel tua chwarter i bedwar ar ôl rhyw chwe awr o daith. Roedd gwres gwesty y Bear yn dderbyniol iawn. Daeth pawb yn ôl i’r un lle nes ymlaen am ginio swmpus — heb Elin druan, ond gyda chysur cwmni Helen a Nesta. Dyn ni wedi archebu’r un lle ar gyfer Nadolig nesa yn barod! (Rhagfyr 9fed.2023).
Adroddiad gan Rich Mitchley
Lluniau gan Alison a Dewi ar FLICKR