HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Fan Llia a Fan Nedd 11 Mehefin


Daeth deg ohonom ynghyd i’r man cychwyn, sef maes parcio coedwig Blaen Llia, ryw ddwy filltir a hanner i’r gogledd o Ystradfellte (SN 927 165).

Cyfnewidiol oedd rhagolygon y tywydd, ac er yn sych i ddechrau, buan y bu rhaid i ni oedi er mwyn gwisgo’n cotiau glaw wrth esgyn i gyfeiriad gogledd dwyreiniol o’r maes parcio, ar hyd ochrau Fan Llia. Ar ôl cerdded am ryw filltir a hanner, heibio i garn, dyma ni’n cyrraedd copa Fan Llia (632 m). Gyda’r glaw wedi stopio, oddi yma roedd modd gweld copa olaf ein taith, sef fan Nedd, gyda Fan Gyhirych y tu hwnt iddo, a Fan Hir a Bannau Sir Gar yn rhannol guddiedig o dan gymylau tua’r gorllewin. I’r dwyrain gwelir Fan Fawr, gyda chronfa ddŵr Ystradfellte yn y dyffryn rhyngom.

Cerdded rhwydd wedyn ar hyd y grib gan ddilyn Llwybr y Bannau, dros gopa di-nod Fan Dringarth (617 m), ag ymlaen i gyfeiriad gogledd dwyreiniol. Ar ôl disgyn am dipyn bach, cyfle am ddished yng nghysgod o’r gwynt, cyn esgyn eto a chyrraedd ymyl serth craig Cwm Du. Roedd yr olygfa o ddyffryn rhewlifol Cwm Du oddi tanom yn ysblennydd, gyda Nant Cwm Du yn troelli drwy’r cwm, a phont Blaen Cwm Du yn y pellter oddi tanom.

Ymlaen wedyn gan ddilyn ffens a ddilyna ymyl craig Cwm Du nes cyrraedd Craig Cerrig Gleisiad. Ar ôl seibiant i fwynhau’r olygfa o’r dyffryn hyfryd siâp amffitheatr a chopaon nodedig Corn Du a Pen y Fan, ymlaen i gyfeiriad gogleddol dros Fan Frynych (629 m), ac yna  dilyn y llwybr i gyfeiriad gorllewinol.

Ar ôl cyrraedd carn arall, gwyro i ffwrdd o’r prif lwybr, gan ddilyn llwybr llai amlwg a disgyn, yn raddol i ddechrau ac yna yn fwy serth, i lawr ochr y cwm at nant Cwm Du. Dilyn y nant wedyn gan gamu drosti nifer o weithiau i ddarganfod y llwybr gorau. Ar ôl tipyn mae’r cwm yn agor allan, a’r cerdded yn rhwyddach. Mae Cwm Du yn rhan o warchodfa natur Craig Cerrig Gleisiad. Oherwydd bod ffermwyr wedi pori llai o anifeiliaid yn yr ardaloedd hyn yn draddodiadol, mae llawer mwy o amrywiaeth o flodau gwyllt yma o’i gymharu ag ardaloedd cyfagos y parc cenedlaethol. Mae’r gwir babi Cymreig gwyllt yn blanhigyn digon prin, ond mi roedd i weld yn ffynnu ar hyd creigiau a glannau nant Cwm Du. Hefyd i weld yn ffynnu oedd nifer o ferlod gwyllt y mynydd, ag ambell ebol, yn pori ar ochrau’r cwm.

Dyma’r man gorau mae’n debyg yn y Bannau i ddod o hyd i Fwyalchen y Mynydd prin o Affrica, sy’n ymweld yn yr haf. Mae’n hoffi’r clogwyni creigiog lle mae’n bwydo ar bryfed genwair, pryfed ac aeron, ond nid oedd son amdani ar ein taith.

Ar ôl tamed o ginio wrth ymyl y nant, fe ymuno’n wedyn a’r hen ffordd Rufeinig Sarn Helen, a chroesi pont Blaen Cwm Du, a welsom ynghynt ar ein taith o uchelder Craig Cwm Du. Hon sy’n cario’r ffordd dros Nant Cwm Du ac mae’n debyg iddi gael ei hadeiladu tua 1767.

Wrth gerdded ymlaen roedd golygfeydd da i weld lawr dros ddyffryn Senni i’r gorllewin, ac yna Fan Dringarth a Fan Llia i’r Dwyrain a Fan Nedd i’r gorllewin. Ar ôl dilyn Sarn Helen am ryw filltir a hanner, troi oddi ar y ffordd i’r dde gan ddilyn llwybr ar draws tir corsiog  a chroesi’r ffordd fynydd sy’n arwain o Ystradfellte i Heol Senni, gerllaw tro a nabyddir fel y Devil’s Elbow.

Cymal olaf y daith oedd dilyn y llwybr oedd yn esgyn wrth ymyl y wal gerrig o’r hewl tuag at Fan Nedd. Gan ddringo’n gyson i ddechrau, ac yna yn fwy serth tua’r diwedd, ymhen dim roeddem wedi cyrraedd y garn ar ymyl ogleddol Fan Nedd. Ymlaen wedyn at y copa a’r pwynt trig (663 m), ac yna  dilyn llwybr a oedd braidd yn aneglur mewn mannau a chroesi mwy o dir corsiog tua’r gwaelod, cyn cyrraedd yr hewl a nôl am y maes parcio.

Taith o  ryw 11.4 milltir, gyda tua 2,400 troedfedd o esgyn.

Diolch i’r criw am eu cwmni, sef Digby, Helen, Meirion, Alison, Rhun, Bruce, Pwt, Pens a Dewi, ac hefyd i Elin am ei chwmni ar y reci.

Adroddiad gan Eurig

Lluniau gan Dewi ar FLICKR