HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dyffryn a Coedwig Afan 12 Tachwedd


Man cychwyn: Maes Parcio Parc Gwledig Afan Argoed, Dyffryn Afan SS 823952.

Yr oedd unarddeg o gerddwyr ar y daith — Rhun, Eurig, Meirion, Helen, Digby, Elin, John, Pwt, Pens, Paddy a Simeon.

Dechreuodd y daith ym Mharc Gwledig  Afan Argoed yn Nyffryn Afan ar ddiwrnod sych, braf. Dringo yn gyntaf i fyny i’r llwybr uwchben pentrefi Cynonville a Dyffryn. Yna, heibio i domenni glo pwll Dyffryn Rhondda (na, nid Y Rhondda go iawn, ond wedi dwyn yr enw).

Cyrraedd carreg yn marcio yr hen ffin bwrdeisdref rhwng Castell-Nedd a Maesteg. Yna, codi unwaith eto i gyrraedd copa Foel y Dyffryn. Dyma’r cyfle cyntaf i weld Cwm Llynfi yn ei ogoniant wrth edrych i lawr ar Y Caerau, cartref Norah Isaac, ac yna ar Nantyffyllon a Maesteg.

Yna, cerdded ar hyd tir agored i gyrraedd coedwig Garn Wen ac i lawr llwybr serth Rhiw Tor Cymry. Dyma ni wedyn yn croesi y brif heol sy’n cysylltu Maesteg â Phort Talbot a cherdded trwy cwrs golff Maesteg. O danon ni oedd hen dwnel tren y PTR – Port Talbot Railway - a gaeodd nôl yn y chwedegau.

Coedwig arall, ond y tro hyn yn rhan o goedwig Margam ar hyd rhan o lwybr Coed Morgannwg i gyrraedd pentref Y Bryn. Cyfle i gael cinio mewn lle braf gyda digon o fyrddau wrth ymyl yr hen rheilffordd PTR sydd nawr yn lwybr cerdded a beiciau. Wrth ymyl y man bwyta oedd tafarn Y Royal Oak, oedd yn anffodus/diolch byth ar gau amser cinio!

Croesi nôl dros yr heol fawr i gerdded ar draws ac i fyny hen domen pwll glo Bryn Navigation. Roedd glowyr Bryn yn ymfalchio yn eu gwaith. Roedd eu glo’n cael ei ddefnyddio gan y Llynges Frenhinol a dywedir bod “Mallard” — y locomotif stêm -  wedi’i yrru gan lo glofa Bryn pan greodd y record ar gyfer y locomotif cyflymaf erioed yn 1938 wrth gyrraedd cyflymder o 125.88 milltir yr awr.

Codi unwaith eto, y tro hwn dros Mynydd Penhydd ac i lawr trwy parc Coedwig Afan i gyrraedd nôl i Afan Argoed ac ymlacio dros baned yng nghaffi y ganolfan.

Taith o 11.5 milltir a 1900 troedfedd o ddringo.

Adroddiad gan Rhun Jones

Llun gan Rhun ar FLICKR