HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Ffynnongroew 13 Ebrill


Taith Bro Thomas Pennant
Tŵr Taith Bro Thomas Pennant

Cyfarfod am 10.15 am wrth Felin y Garth Ffynnongroyw. Adeildadwyd y felin yn 1743 gan y teulu Mostyn i drin grawn yr ardal leol. Cychwyn y daith gan  gerdded drwy Goed y Garth ac allan i dir agored wrth olion hen waith mwyn Trelogan yna i’r chwith a cherdded uwchben Coed Pentre Ffynnon ac at y maen diddorol Achwyfan.

Hwn yw’r maen talaf o’i fath yn y wlad  ac mae dros fil o flynyddoedd oed. Ymlaen wedyn at y Tŵr ar Fynydd y Garreg.  Pharos Rhufeinig a elwir yn lleol ond mae’n debyg yr adeiladwyd yn yr ail ganrif a’r bymtheg fel disgwylfa. Cinio wrth y Tŵr a i lawr i Chwitffordd . Picio mewn i’r fynwent i weld bedd Moses Griffith bachgen o Ben Llŷn a oedd yn ddarlunydd a chyd deithiwr i Thomas Pennant a drigai yn lleol yn Downing.

Cerdded yn ôl i’r ceir drwy dir parc Mostyn ac i lawr Nant y Felin Blwm.

Diolch i Clive, Dafydd, Eifion, Haf, Gwyn Chwilog, Gwyn Llanrwst, John Arthur, Nia a Winni am eu cwmni. Diwrnod heulog braf mewn bro gwahanol.

Adroddiad gan Arwel

Lluniau gan Arwel ar FLICKR