HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ysbyty Ifan a'r Migneint 13 Gorffennaf


“O na byddai’n haf o hyd,
Awyr las uwch ben y byd”

.....A dyma’n union sut oedd hi ar fore braf o fis Gorffennaf - y dyn tywydd wedi addo diwrnod poeth, a phawb wedi gofalu am ei het a’i eli haul.

Roedd 16 ohonom yn cychwyn y daith yng nghanol pentref diddos Ysbyty Ifan ym mhen uchaf Dyffryn Conwy. Os nad yda’ chi wedi bod yn Ysbyty Ifan, mae’n debygol eich bod wedi clywed am un o feibion enwoca’r pentref, sef y taflwr codwm Orig Williams / El Bandito.

Enw gwreiddiol y pentref oedd Dôl Gynfal - fe’i newidiwyd i Ysbyty Ifan yn y 12 ganrif pan sefydlodd Urdd Sant Ioan eu canolfan yma i bererinion ar eu ffordd i Glynnog ac Enlli. Perthynai trefn a chyfraith arbennig i’r gymuned ac unwaith y byddai rhywun yn cyrraedd o fewn ffiniau’r plwyf, ni allai cyfraith gwlad ei gyffwrdd.

Cerdded heibio Ffynnon Penrhyn sydd wedi’i anfarwoli yn y gân ‘Pistyll y Llan’ gan T Osborne Roberts, y cerddor a’r cyfansoddwr a oedd yn byw yma pan yn blentyn ac yna yn ddiweddarach yn ei oes. Dringfa reit serth wedyn heibio’r Fron ar hyd hen lwybr trol i gyfeiriad Foel Gopyn. Cadw ar y llwybr a thrwy fuarth Pennant at y ffordd a thros yr Afon Gonwy ar hyd llwybr hamddenol i fferm y Fedw. Parhau ar y ffordd drol a dod yn nes at isafon yr Afon Gonwy sef y Serw fyrlymus. Cinio yma ar gwr yr afon. Hyfryd oedd gweld  y cerrig camu uwchben y dŵr a llwyddodd pawb i groesi yn ddidrafferth.

O’n cwmpas roedd tyddynnod diarffordd Trwyn Swch, Moelfryn Serw a Trawsnant – yma byddai’r ffermwyr oedd efo cynefin ar y Migneint yn aros dros yr ha’ i fugeilio. Yn y man daethom at Cefn Garw, y pellaf o’r tyddynnod a’r lle mwyaf annhebygol i chi ddod ar draws ‘piano pinc’. Gwaetha’r modd mae ei lliw wedi hen bylu a go brin y byddai Liberace ei hun yn gallu denu tiwn ohoni. Ar y wal mae clamp o hen faharen Gymreig. Ond mae Cefn Garw wedi cadw’r ddwy gyfrinach a does neb yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am y piano na’r murlun!

Yn ei gerdd i’r Migneint mae Lloyd Jones yr awdur a’r teithiwr yn crisialu’r olygfa o Gefn Garw:-

Saif y ddwy Arenig a Moel Llyfnant
Yn llonydd yn yr awyr fel tair llong ofod
Ar eu ffordd yn ôl i’r arallfydoedd
Sy’n hel atgofion ein cri o’r gwacter.

Roedd rhan ola’r daith ar gorstir y Migneint sy’n gymysgfa o frwyn a grug ac ambell graig yn gyfeirbwynt derbyniol yn y tir anial. Meddai Dewi Davies, Rheolwr Prosiect Dalgylch Conwy Uchaf: ‘Mae gorgorsdir (blanket bog) yn brinnach na fforestydd glaw ac yn fwy effeithiol, fesul erw, am storio carbon na’r Amazon – mae’n anhygoel bod 4 % o holl fawndir mwyaf dwfn ac effeithiol yn y byd, sef gorgorsdir, yng Nghymru”.

Heddiw roedd yr olygfa o’n cwmpas yn glir ac roeddem yn gweld Llyn Serw  wedi’i amgylchynu gan y migwyn (Sphagnum) a Llyn Conwy yn y pellter fwy i’r gogledd. Ymhen ryw dri chwarter awr o gerdded dros y corstir cyrraedd y pedwar car oedd wedi’u parcio mewn arhosfan ers ben bore i’n cludo’n ôl i Ysbyty Ifan.

Diwrnod gwerth chweil. Diolch am gwmni Dafydd, Haf, Buddug, Nia Wyn Seion, John Arthur, Clive a Rhiannon, Alys, Llinos, Rhys Llwyd, Nest a Ken, Meirion a Nia, Winnie a Margaret.

Adroddiad gan Margaret

Lluniau gan Winnie, Rhiannon, Rhys a Meirion ar FLICKR