Gyrn Ddu, Gyrn Goch a Bwlch Mawr 14 Mai
Does dim son am y Gyrn a Bwlch Mawr yng Nghopaon Cymru a gan eu bod yn is na 2000 troedfedd (Gyrn Ddu yn 1712’) dim ryw lawer o sylw mewn llyfrau eraill chwaith. Mae hynny yn fendith mewn un ffordd gan mai ychydig o gerdded sydd i’w copa, os ydych chi'n cychwyn o ochor Trefor rhaid codi ryw 1600’ i gyrraedd copa Gyrn Ddu.
‘Roeddwn yn falch o weld felly fod deunaw ohonom wedi dod i wneud y daith ar ddiwrnod braf.
Cychwyn (a Gorffen) y daith ger rhes tai Tan y Graig. Mae yna dri llwybr yn mynd ffordd yma sef llwybr yr Arfordir, llwybr y Pererinion ac un arall yn cychwyn i’r cyfeiriad yr aethom ni sef cylchdaith arfordir rhwng Trefor a Chlynnog. Dilyn y llwybr heibio i hen chwarel ithfaen Tan y Graig. Y copa cyntaf oedd Gyrn Ddu; yma mentrodd hanner y criw dros y bolderi sydd ar y copa a mynd i’w ben a’r gweddill ohonom yn mynd o amgylch odra’r cerrig. Ymlaen wedyn i ben Gyrn Goch ac aros yno i gael ein cinio cyntaf. Golygfeydd gwych yma o’r arfordir i’r dwyrain ac i gyfeiriad Pen llŷn a’r Eifl, ac Eryri yn y golwg hefyd; ond doedd hi ddim ddigon clir i ni weld Iwerddon. Ymlaen ar y tir agored a rhwng dwy wal gerrig nes cyrraedd y copa olaf sef Bwlch Mawr, roedd cyfle yma i orffen y bwyd a mwynhau’r olygfa. Hwn oedd y tro cyntaf i rai o’n criw fynd i’w gopa. Dilyn y wal wedyn nes ymuno a llwybr Trefor Clynnog a’i ddilyn yn ôl i’r lle y cychwynnom mewn pryd, i’r rai oedd â diddordeb, fynd adref i weld Lerpwl yn ennill cwpan yr F.A.
Dyma enwau'r rhai oedd ar y daith;
Annet, Gwynfor Jones, Rhian Jones, Rhys Llwyd, Gwyn Williams (Llanrwst). John Arthur, Iola, Emyr Davies, Clive, Nia Wyn (Saron), Huw Williams, Dafydd R. Jones, Iolo Roberts, Elen Huws, Morfydd a Hefin Thomas, Nia a fi Gwyn Williams (Chwilog)
Adroddiad gan Gwyn
Lluniau gan Gwyn, Anet a Hefin ar FLICKR