Y Carneddau o Lyn Ogwen 15 Ionawr
Ddim yn amal byddwn yn cyrraedd canol mis Ionawr heb ddefnyddio'r gaib a'r cramponau o gwbwl ond felly mae hi eleni!
Roedd y tywydd ffafriol wedi dennu'r niferoedd am Ogwen a llefydd parcio yn brin erbyn 9 o'r gloch. Yr un peth yn wir am ein taith ni, gyda criw o 27 ohonom yn cychwyn o Glan Dena. Berwyn, Math, Rhian a Rhiannon ar eu taith cyntaf ac ma'i bob amser yn bleser croesawu aelodau newydd. Dwnim sawl gwaith wnes i gyfrif pawb yn ystod y dydd. Criw profiadol ohonom a rwyf yn ddiolchgar dros ben i pawb a fu helpu gyda grŵp mor fawr.
Gan ddilyn y Llwybr Llechi at Fferm Gwern Gôf Isaf mi feddyliais allai'r rhew ar y llwybr fod ddipyn mwy o sialens yn uwch i fyny ond cnesu wnaeth hi fel i ni ddringo. Dilynom y lôn Bwrdd Dŵr at Ffynnon Llugwy ble cafom baned a chyfle i dynnu haenau cyn ail gychwyn tuag at Bwlch Eryl Farchog. Roedd yn braf sgrialu i fyny'r slabiau sych am Graig yr Ysfa yr amser yma o'r flwyddyn. Ymlaen a ni am gopa Carnedd Llywelyn ble wnaeth y niwl ddechrau hel ond roedd y tymheredd yn anhymorol felly fe benderfynnwyd mai dyma oedd y lle am ginio. Mark Wynn yn dal i fyny gyda ni ar y copa ar ol cychwyn yn hwyrach.
Roedd y gwaith caled drosodd erbyn hyn gyda'r cerdded llawer haws dros Gefn Ysgolion Duon am Carnedd Dafydd.
Roedd y niwl yn mynd a dod nes i ni ddod i lawr rhyw 100 medr o gopa Pen yr Ole Wen. Fe aeth Gerallt yn ei flaen gyda'r tripod er mwyn cael y llun olaf cyn i ni ostwng yn ôl am Glan Dena. Tra oedd pawb yn cael 5 munud, hanner ffordd i lawr, fe sylweddoliais nad oedd golwg o Gerallt. Dwynwen yn cadarnhau ar ôl rhoi galwad iddo ei fod wedi bod yn disgwyl amdanom wrth yr afon a ni wedi troi yn syth i'r dde a'i adael ar ôl! Wedi methu'r llun hefyd felly fe ddaliodd i fyny gyda ni a mynd ar y blaen unwaith eto am un cyfle olaf wrth lannau Llyn Ogwen. Fel arfer roedd Gerallt wedi cael lluniau anhygoel a hyny yn un peth yn llai i mi boeni am a chanolbwyntio ar gadw pawb gyda eu gilydd. Tywydd ardderchog am fis Ionawr ond gobeithio daw'r eira cyn y Gwanwyn wir!
Taith bron i 10 milltir gyda 900 medr o ddringo.
Aelodau ar y daith: Hilary, Dylan, Elen, Rhian Roberts, Rhian Lewis, Cemlyn, Morfudd, Gerallt, Dwynwen, Hywel, Alun Caergybi, Math, Berwyn, Trystan, Sandra, Ariannell, Eirwen, John Arthur, Einion, Rhiannon, Iolo Roberts, Richard, Eryl, Ifan, Gareth a Mark Wynn.
Adroddiad gan Stephen Williams.
Lluniau gan Gerallt Pennant a Hywel Watkin ar FLICKR