Penllithrig-y-wrach a Phen yr Helgi Du 15 Hydref
8, 7, 6, 5, 4. Fel hyn ostyngodd y niferoedd nos Wener cyn y daith dydd Sadwrn. Nid oedd hyny lawer o syndod gan ystyried y rhagolygon, sef glaw trwm, hyrddiau gwynt hyd at 70mya ar y copaon a niwl o 350 medr.
4 ohonom (fi, Gethin, Iolo ac Alice) yn cyfarfod bore Sadwrn yn y maes parcio tu ôl i Joe Brown yng Nghapel Curig ar fore gogoneddus. Diolch yn fawr iawn i Richard oedd wedi gyrru o Ruthun i ddod a'r diffibriliwr drosodd ar ôl gwneud penderfyniad i beidio dod gyda ni. Roedd o braidd yn siomedig pan ei fod wedi gadael ei esgidiau cerdded a'i sach gartref. Roeddwn yn teimlo braidd yn drist drosto ond gallwn weld y doethineb yn ei benderfyniad erbyn 11.30.
Er ein bod wedi cael cychwyn ffafriol tuag at gopa'r Crimpiau fe gyrhaeddodd y glaw o fewn rhyw awr yn dilyn ein paned gyntaf. Erbyn i ni gyraedd Maen Trichmwd uwchben Llyn Cowlyd Gethin oedd y cyntaf ohonom i gael socsan. Traed gwlyb gan pawb o fewn yr awr nesaf! Roedd y gwynt wedi codi erbyn hyn a fel i ni ddringo Pen Llithrig y Wrach roedd angen newid ein cyfeiriad i'r y gorllewin er mwyn cadw'n traed ar dir llai serth oherwydd cryfder y gwynt.
Er gwaethaf y tywydd mi gyrhaeddom ar y copa mewn amser i ddal awyr las olaf y dydd cyn iddi dwyllu fel oeddwn yn gostwng am Fwlch y Tri Marchog. Gyda'r gwynt dal i wneud bob cam deimlo fel tri mi oedd yn braf dod o hyd i greigiau cysgodlyd am ginio. Cyn in ni setlo roedd fflach uwch ein pen a swn taran yn ddigon i'n gwneud ni anghofio am fod yn llwglyd a rhuthro i lawr oddi ar y grib am dir mwy gwastad. Roedd merlod y Carneddau yn rhedeg i bobman hefyd yn amlwg wedi cynyrfu. Diolch byth, sydyn fu'r storm a pasio a fe gyrheaddom y gored a cherdded am lôn Llugwy lle cafom ginio o'r diwedd tu ôl i'r wal. O fewn dwy gegiad o baned dda fe ddychwelodd y glaw a buan fu'r 4 ohonom bacio sach ac ail gychwyn cerdded. Rhyw hanner awr yn hwyrach roeddwn yn ol yn y maes parcio ar ôl dilyn y Llwybr Llechi o Fferm Gwern Gof.
Roedd peint sydyn ym Mhlas y Brenin yn swnio'n syniad da ond yn anffodus doedd y bar ddim ar agor i'r cyhoedd! O leiaf mi oedd un baned ar ôl yn y fflasg i gnesu'r esgyrn cyn y siwrne adref. Pen y Helgi Du dal yno am ddiwrnod arall!
Adroddiad gan Stephen Williams
Lluniau gan Steve ar FLICKR