HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cylchdaith gogledd y Carneddau o Abergwyngregyn 17 Gorffennaf



Anaml mae rhywun yn wynebu rhybudd tywydd am wres llethol – gwynt, glaw neu oerfel yw’r rhai arferol – ond diwrnod poeth iawn oedd i fod o’n blaenau wrth i ni fentro ar fryniau’r Carneddau ddydd Sul, Gorffennaf 17eg.

Cyfarfu pump ohonom yn Aber a dilynwyd llwybrau o’r pentref i fyny i gopa Moel Wnion. Unwaith y gadawsom gysgod chwyslyd y llethrau isel cawsom wynt deheuol eithaf cryf ar y tir uwch. Gyda hwnnw efo ni am weddill y dydd a thipyn o gymylau uchel i gyd-fynd ag o, roedd y tymheredd yn ddymunol iawn i gerdded yr uchelfannau. Daeth Siân Shakespear i’n cyfarfod ar gopa Moel Wnion o gyfeiriad Gerlan.

Ymlaen â ni i gopa Drosgl am damaid o ginio a dysgu am sgiliau cudd Siân fel clochydd ynghyd â chlywed am hanes gwylan yn ymosod arni y bore Sul blaenorol wrth iddi fynd i ganu’r clychau yn eglwys Biwmares. Roedd yr ymosodiad yn un digon cas i greu anaf gwaedlyd ar ei phen wrth i’r wylan geisio amddiffyn cyw gerllaw. Efallai fod mynydda’n weithgaredd mwy diogel na mynd i’r eglwys ar fore Sul wedi’r cyfan!

Wedi’n bodloni gyda bwyd a straeon, aethom yn ein blaenau dros Bera Bach a thros Yr Aryg i gopa Carnedd Gwenllian. Yma ffarweliasom â Siân wrth iddi hi ddychwelyd i Gerlan ac aeth y gweddill ohonom yn ein blaenau i gopa Foel Fras ac yna Llwytmor. Disgynwyd yn eithaf serth o’r copa heibio dipyn o ferlod mynydd (sydd yn reit hoff o lethrau Llwytmor) i Gwm yr Afon Goch. O’r fan honno dychwelwyd yn ôl i bentref Aber dros Farian Rhaeadr-fawr a’r ffordd at y Rhaeadr-fawr.

O ddiwrnod mor hyfryd o braf roedd yn rhyfeddol mai dim ond tri pherson arall welsom ni drwy’r dydd a phedwerydd o bell. Tybed a oedd y rhagolygon wedi cadw dipyn o ddarpar gerddwyr draw o’r bryniau?

Diolch i Elen, Keith, Dylan, Siân ac Ifan am eich cwmni ar daith hynod ddifyr ar y Carneddau.

Adroddiad gan Gareth Huws

Lluniau gan Elen Huws a Gareth ar FLICKR