HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

“Alpau” Gorllewin Gŵyr 17 Medi


Mwynhaodd y criw daith gerdded lawr yng Ngorllewin Penrhyn Gŵyr ar ddiwrnod hyfryd . 

Cyfarfu naw ohonom ni yn y maes parcio bach ar ochr Coedwig Cheriton, Gogledd Gŵyr - Rowena, Pwt, Meirion, Lynwen, Helen, Elin, Digby, Dewi ac Alison.
 
Eglurodd Alison am y daith - yn enwedig o ran daeareg gyfoethog a diddorol yr ardal a sut y dylanwadodd y creigiau ar dirwedd y Penrhyn sef y Calchfaen Carbonifferaidd a'r Hen Dywodfaen coch .

Dyma anelu yn gyntaf at copa Rhostir Ryer. Oddi yma ceir golygfa wych dros forfa heli Llanrhidian a’r ddrysfa o byllau a morgeinciau. Yr ochr draw i foryd Llwchwr gallwch weld Llanelli a Phorth Tywyn a hyd y Preselau yn y pellter.  I'r dde i ni roedd Bannau Brycheiniog i'w gweld.

Dyma droi yn nôl ar hyd y llwybr tua’r Gorllewin ac anelu at gopa Bryn Llanmadog. Wrth gerdded lan, dyma ni’n mynd heibio adfail hen ysgol Llanmadog, am le bendigedig i gael addysg gynnar! Oddi yma ceir golygfa braf o dafod coediog Trwyn Whiteford yng ngheg morydd Llwchwr a'r hen oleudy.

Aethon ni ymlaen lan hyd ragfuriau’r Bulwark, bryngaer yn dyddio o’r Oes Hearn. Amryfaen yr Hen Dywodfaen Coch yw’r creigiau hyn. Wedyn dilynasom grib Bryn Llanmadog at un copa ac arno bentyrrau o gerrig sy'n garneddau cynhanesyddol.

Wedi paned a seibiant lawr â ni i bentref Llangennydd a cherdded tua chopa rhostir Rhosili, trwy ddilyn “Crib naturiol” tirwedd Rhostir Rhosili;  nid oedd llwybr troed wedi'i farcio ond roedd yn ffordd ddiddorol i'r brig.

Mae lympiau hardd o Amryfaen yma a thraw dros Rhosili (gweler y llun ). Mae hon yn nodwedd nodedig iawn o'r dirwedd hon. Fe’i ffurfiwyd wrth i raean gael ei ysgubo yma gan afonydd mawr tua 400 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Cawson ginio gan fwynhau golygfa odidog traeth hyfrytaf Cymru sef Rhosili gyda Phen Pyrod  a Burry Holmes ar bob pen, roedden ni ychydig uwchben adfeilion yr hen orsaf radar o'r Ail Ryfel Byd.

Dyma adael y copa ac anelu i’r dwyrain tuag at Hardings Down – bryngaer arall. Wedyn anelu nôl at y man cychwyn. 

Taith o ryw ddeg milltir ( 16 km ) gan gyrraedd pedwar copa uchaf yr ardal. Ffordd ac ardal wych i dreulio diwrnod hyfyd o fis Medi.

Adroddiad gan Alison

Lluniau gan Alison a Dewi ar FLICKR