HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Gwawr Moel Siabod 17 Rhagfyr


Criw dethol iawn o 8 ddaeth ynghyd ym maes parcio ar ochr y lôn ger Plas y Brenin ar fore tywyll, gwlyb ac oer. Roeddwn yn falch o groesawu Dwynwen Pennant, Dylan Evans, Trystan Evans, Manon Davies, Stephen Williams, Dafydd Thomas ac, ar ei daith gyntaf gyda'r clwb, Cian Owen o Langefni, i gydgerdded gyda fi, gan mai hon yw un o fy hoff deithiau yn y cyffiniau yma.

Buan iawn adawon ni’r cerbydau wrth groesi allanfa llynnoedd Mymbyr wrth iddo ymuno a’r Afon Llugwy. Dros y bont ac i fewn i’r coed a ni wrth anelu am y prif lwybr i gopa Carnedd Moel Siabod. Wedi cyrraedd y gamfa gyntaf dyma ni yn dechrau troedio ar rew ysgafn. Dyma ddechreuad y troedio gofalus, lle roedd y rhew yn prysur fynd y fwy a fwy trwchus a pheryglus gyda pob cam. Erbyn cyrraedd tua 650 m, mi newidiodd y rhew i eira dwfn ac ysgafn, gyda gwynt cryf yn chwyrlio o’n gwmpas. Dyma'r cerdded yn dechrau mynd yn galetach wrth i’r eira fynd yn dyfnach nes, mewn un rhan, mi aeth yn hynod o beryglus wrth gerdded dros y cerrig rhydd ar tua 750 m. Yma mi oedd rhaid cadarnhau ein lleoliad a chyfeiriad, trwy fanylu gyda chwmpawd yng ngoleuni gyntaf y wawr. Wrth i'r troedio ddechrau lefelu, ar goleuni yn cryfhau, dyma ni yn cael cip olwg o’r Garnedd yn y cymylau a gwynt.

Cyfle am funud i dynnu y lluniau safonol ar y copa wrth ymladd â’r gwynt a'r oerni cyn trio, yn y lloches cerrig ger y copa, gael panad bach sydyn oedd yn rhewi wrth ei dywallt i'r gwpan!! Taith tipyn brafiach am i lawr wrth i olau dydd oleuo’r ffordd, ac wedyn gwledd o frecwast anferthol yn "Caffi Moel Siabod" i orffen y bore fel boneddigesau a boneddigion. Diolch i pawb ddaeth ar y daith. Taith gofiadwy iawn, a chwmni pleserus dros ben.

Adroddiad gan Keith Roberts

Lluniau gan Keith ar FLICKR