HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhinog Fawr a Rhinog Fach 18 Ebrill


Tipyn o syndod i’r Rhinogydd, mae’n siŵr, oedd gweld cymaint â 26 ohonom yn cyrraedd Graig-ddu Isaf! Ond maent yn ddigon anial i sicrhau diwrnod tawel ar y mynydd, serch hynny. Rhyw ddeg arall a welwyd drwy’r dydd.

Cerdded heibio’r Pistyll Gwyn tua Bwlch Tyddiad oedd cymal cyntaf y daith, gan droi cyn cyrraedd pen y bwlch i gyfeiriad Llyn Du, lle cafwyd egwyl am baned. Ymlaen wedyn at ben gorllewinol y llyn a dilyn y llwybr mwy graddol gyda’r wal (yn hytrach nag un o’r hafnau uniongyrchol) i fyny ysgwydd y mynydd a chyrraedd copa Rhinog Fawr mewn rhyw ddwy awr a chwarter – amser reit dda. Penderfynwyd yno i gychwyn y daith flinderus am Fwlch Drws Ardudwy cyn cael cinio hanner ffordd i lawr. Gobeithio bod pawb wedi mwynhau sgrialu lawr yr hafn os nad y sgri yn is i lawr!

Mae’r llwybr a ddewisiwyd yn cyrraedd y gwaelod 500 metr o ben y bwlch, union gyferbyn â’r llwybr heibio Llyn Cwmhosan ac ymlaen, gan ddringo’n raddol, at Lyn Hywel – llecyn hudolus a thrawiadol, oedd ar ei orau yn llygad yr haul ac awyr las yn y cefndir. Wedi seibiant i fwynhau’r awyrgylch, dilynwyd ymyl y llyn i’w ochr ddwyreiniol ac yna dilyn y wal amlwg yr holl ffordd i’r copa gydag ambell ddarn serth yn sugno’r egni tua diwedd y dydd.

O’r copa, aethom ar hyd ysgwydd y mynydd tua’r gogledd am 450 metr cyn troi ar i lawr ar hyd llwybr digon annelwig (ac â oedd yn diflannu ar brydiau) i ochr ddwyreiniol Bwlch Drws Ardudwy ac i’r llwybr fyddai’n ein harwain at y ffordd goedwigaeth yn ôl i’r man cyfarfod.

Braf iawn oedd cael cwmni Aled a Meirion o Landysul (dim ond ychydig mwy o daith na phe byddent wedi mynd am Fannau Brycheiniog!) ynghyd â Peter o Bow Street, Gwyn Chwilog, Dwynwen a Gerallt, Eirlys ac Iolyn, a Rhiannon, Dylan, Trystan, Berwyn, Gareth, Ifan ac Iolo o ochrau Arfon, Gwion o Ardudwy, Sioned Llew, Dafydd ac Hywel Watkin o Ddinbych, Aaron, Richard, Ffion a Cerian o Ruthun, a Tegwen, Gareth Wyn ac Eryl.

Diwrnod gwych ar fynyddoedd ysgithrog ac anial y Rhinogydd.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Gerallt, Hywel a Richard ar FLICKR