HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Ddwy Aran 18 Mehefin


Nid oedd angen fy mherswadio gan Eryl i arwain taith i gopa dwy o freninesau Meirionnydd. Daeth 15 ynghyd i faes parcio Pont y Pandy, ym mhentref Llanuwchllyn. Dyma’r cyntaf o ddwy daith tros y penwythnos arbennig yma, ble y croesawyd cyfeillion o Dde Cymru i ymuno gyda ni. Dilynwyd y daith sydd yn “Copaon  Cymru” gan ddringo y llwybr cyfarwydd ac arferol o Lanuwchllyn i gopa Aran Benllyn, gan fynd  heibio Moel Ddu, Moel Ffenigl ac ymlaen i’r copa. Wedi ysbaid fer ar gopa Aran Benllyn, ymlaen i Aran Fawddwy a chael cyfle yno  i gael cinio mewn cysgod o’r gwynt iasoer.

Dychwelyd ar ôl cinio i’r copa bychan rhwng y ddwy Aran, cyn disgyn llethr serth a glaswelltog “Erw’r Ddafad Ddu” gerllaw Creiglyn Dyfi. Roedd y dringo caled a’r ddwy Aran y tu cefn i ni, wrth i ni ddringo i gopa Moel Hafod Fynydd, ac yna ar hyd cribin Braich yr Hwch, i syrthio i lawr i fferm Cwm Ffynnon. Ni ellir peidio a theimlo y rhamant a’r hud yn yr enwau sydd ar lwybr y daith heddiw. Rhyfeddwyd  hefyd at y gwaith a wnaed i adfer defnydd yr hen adfail yn Cwm Ffynnon yn fwthyn gwyliau o’r radd uchaf.

I lawr Cwm Croes, gan ddilyn y llwybr, ac yna’r ffordd hyd at Tŷ Mawr, cyn ymuno o Tŷ Mawr ymlaen ar lwybr Cwm Cynllwyd yn ôl i’r pentref. Roedd rhagolygon y tywydd wedi darogan glaw trwm o 3.00 o’r gloch ymlaen, ond buom yn ffodus iawn o gael ond ychydig ddiferion cyn cyrraedd y maes parcio.

Roedd i’r daith yma arwyddocâd arbennig i ni fel clwb. Cafwyd munud o dawelwch ar ddechrau’r daith wrth fynd heibio y maen coffa i Llew Gwent, ac yna yn ddiweddarach, mewn man arbennig rhwng y ddwy Aran, aros i gofio am Gareth Pierce a syrthiodd yma gwta flwyddyn yn ôl. Darllenwyd englyn o waith Meirion i Gareth, cyn mynd ymlaen ar ein siwrnai. Dau o aelodau mwyaf gweithgar y clwb, a gollwyd yn llawer rhy gynnar, ond hefyd dau a fyddai yn falch o’r cysylltiad parhaol sydd iddynt ar yr Aran erbyn hyn.

Diolch am gwmni difyr Bruce Lane, Eurig James, Meirion a Digby o’r de, ynghyd a Eryl, Gareth Wyn, Sian, Elen, Sioned Llew, Gaenor, Peter, Gareth Pritchard, John Arthur ac Iolo.

Adroddiad gan Gwyn Williams,

Lluniau gan Gwyn a Sioned ar FLICKR