HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith y llynnoedd 19 Ionawr


Dydd Mercher y 19eg o Ionawr cyfarfu 26 o’n haelodau ger Pont y Pair ym Metws-y-coed. Elizabeth, Mair ac Iona oedd yn arwain ac roedden nhw wedi ymarfer y daith sawl gwaith er mwyn gweld cymaint o lynnoedd â phosibl yng nghoedwig Gwydir.

Ar ôl gadael y pentref a chychwyn ar lwybr y goedwig roedd gwaith dringo a phawb yn cynhesu. Gwelwyd olion y mwyngloddio yn yr ardal wrth ymlwybro ac afonig hardd yn llifo tuag at yr afon Conwy. Ar ôl pasio bwthyn Aberllyn gwelwyd Llyn Parc sy’n 664 troedfedd uwch lefel y môr a’i arwynebedd yn 22 acer. Paned sydyn a cherdded ar ffordd y goedwig yna troi i’r chwith er mwyn cael ychydig o amrywiaeth a mwynhau gwyrddni’r mwsogl ar y coed ac o dan droed. Allan yn ôl i’r ffordd a chip sydyn ar hen gronfa ddŵr Coed mawr a chyn bo hir cyrraedd Nant Bwlch yr Haearn ac olion y mwyngloddio plwm a sinc  a ddigwyddodd yma. Cloddfa’r Parc oedd y fwyaf a mwyaf llwyddiannus ac fe agorodd yn 1855 a’i gweithio tan y 1940au.

Cafwyd seibiant am ginio wrth Llyn Sarnau. 3 acer ydi’r llyn yma ac yn aml yn yr haf bydd yn ymddangos wedi sychu a thyfiant o frwyn yn ei orchuddio. Ail gychwyn ar lwybrau trwy goedwig Gwydir unwaith eto. Dechreuwyd plannu coed yn yr ardal yma yn 1921. Ar hyn o bryd mae gwaith torri coed yn cael ei gynnal a sawl coeden wedi disgyn ar ôl gwyntoedd cryf.

Ar y chwith i ni cyn cyrraedd tŷ Bryn Fawnog cawsom gip ar lyn Pencraig. Nid oes mynediad i’r llyn yma rŵan. Ymlaen â ni at lwybr sydd rhwng dau lyn dienw er eu bod yn dipyn o faint. Cyn bo hir gwelsom Lyn Glangors sy’n 15 acer ac yn 900 troedfedd uwchben lefel y môr. Adeiladwyd y llyn yma i gyflenwi dŵr i fwynglawdd Pandora. Yna roedd cyfle i gerdded ychydig o gaeau gan weld olion gwastraff y mwyngloddio. Roedd Moel Siabod yn gwmni i ni ar hyd y daith a llyn Geirionydd yn gorwedd  o’r golwg yng nghysgod Mynydd Deulyn.

Yn ôl i’r ffordd sydd yn mynd o Lanrwst at Lyn Geirionydd a throi i’r dde i weld llyn Bodgynydd Bach a llyn Bodgynydd Mawr neu llyn Bod Mawr ar lafar. Mae’r llyn yma yn 14 acer o arwynebedd ac yma hefyd adeiladwyd argae i gyflenwi dŵr i fwynglawdd Pandora. Gerllaw’r llyn mae Gwarchodfa Natur Cors Bodgynydd ac un o’r llefydd gorau yng ngogledd Cymru i weld a chlywed y troellwr mawr pan fydd yn ymweld yn ystod misoedd yr haf.

Cyn bo hir roeddem yn ôl yn y ffordd  sy’n rhedeg o Lanrwst i Tŷ Hyll gan weld y llyn olaf yng ngardd Tŷ’n Mynydd. Ar ôl dringo camfa neu ddwy roeddem yn croesi caeau cyn dychwelyd i’r goedwig ger Diosgydd. Lawr y llwybr yma yn ôl i Betws gyda’r afon Llugwy yn byrlymu oddi tanom ar ei ffordd i ymuno â’r afon Conwy.

Adroddiad gan Iona

Taith i Nant Bwlch yr Haearn lle bu cloddio am blwm a sinc o 1607 hyd at 1950

Roedd 28 o aelodau wedi cyfarfod yn Pont y Pair, Betws-y-coed. Enwau rhai o’r gweithfeydd oedd Aberllyn, Cyffdy, Parc, Hafna a Pandora. Cychwyn dringo trwy Coed Gwydir at Lyn Parc, llyn naturiol oedd yn cyflenwi dŵr i waith Aberllyn. Ymlaen at gronfa ddŵr Coed Mawr ac yna at Lyn Sarnau.

Cyn cael cinio wrth y llyn, mynd i weld y simdde fawr sydd wrth ysgol awyr agored y Nant. Llwybr trwy’r coed wedyn heibio Bryn y Fawnog at ddwy gronfa ddŵr, "un-named lakes" ar y mapiau, oedd yn cyflenwi dŵr i waith Cyffdy. Dilyn y llwybr wrth ochr Bwlch Gwynt i lawr at Lyn Glan Gors oedd yn cyflenwi dŵr i waith Pandora. Ymlaen heibio Ty’n y Groes oedd yn gartref i Dilys Cadwaladr pan oedd yn athrawes yn ysgol y Nant. Llyn Bodgynydd Bach oedd y nesaf sef cronfa ddŵr ac yna llyn naturiol Bodgynydd Mawr, sydd yn perthyn i Glwb Pysgota Llanrwst. Troi am adref heibio Hafoty Pencraig ac at Diosgydd Uchaf ac yna y llwybr trwy’r coed yn ôl i Betws.

Diolch i bawb am eu cwmni.

Adroddiad gan Elizabeth

Enwau'r cerddwyr: Anet, Gwyn a Linda, Buddug, Gaenor, Margiad, Huw, Richard, Dilys ac Aneurin, Dafydd, Ellis, Erddyn, Gwynfor a Rhian, Gareth a Rhys, John Arthur, Iolo, Nia, Wini, Nia Wyn, Haf, John P, Elizabeth, Mair a Iona.

Lluniau gan Haf, Gwyn a Iolo ar FLICKR