HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pwll-du, Penrhyn Gŵyr 19 Mawrth


Roedd tri ar ddeg ohonon ni’n ffodus i fwynhau tywydd ardderchog a chwmni hwyliog ar daith gylch ar lan y môr.

Dechreuon ni ar hyd llwybr uchel rhwng baeau Langland a Caswell, ac yna disgyn yn serth i Goed yr Esgob; dyffryn collddail ger Caswell sydd â threftadaeth ddiwydiannol ddiddorol – a hefyd hen gapel a ffynnon ganoloesol wedi’u cysegru i San Pedr cyn cyfnod datgysylltu’r Eglwys.

Ymlaen â ni gan gerdded drwy faestref Llandeilo Ferwallt a disgyn i'r dyffryn eponymaidd. 

Mae Dyffryn Llandeilo Ferwallt yn llecyn coediog braf sy’n tua 6-7 km o hyd a dilynon ni'r gornant am 2-3 km cyn gadael y Dyffryn a dringo lan at High Pennard. Mae‘r gornant yn diflannu dan ddaear wrth lifo oddi ar siâl ac ar draws calchfaen yn y dyffryn. Cyn y man lle ymunon ni â’r llwybr, mae’r gornant yn codi’r i’r wyneb drwy sawl tarddell cyn llifo i’r môr ym Mae Pwll-du yn y pen draw.

Ar ôl High Pennard, aethon ni oddi ar unrhyw lwybrau a nodir ar fap yr AO i lawr at Ben Pwll-du i glywed am hanes trist y llong Caesar a ddrylliwyd ar y clogwyni oddi tano yn 1760. Daethpwyd o hyd i gyrff 68 o wŷr y près (press gang) yn gaeth mewn cyffion ar y llong ac fe’u claddwyd ger Graves End.

Wedyn, aethon ni ar lwybr cul ac aneglur er mwyn sgrialu i lawr at Fae Bantam. Dyma le prydferth ac anghyfannedd – gem yng nghoron De Gŵyr nad oes neb llawer yn gwybod amdani.

Ar ôl cinio yng nghysgod y creigiau, roedd angen rhagor o sgrialu dros y creigiau i gyrraedd traeth Pwll-du. (Rhybudd – dim ond pan fydd y llanw mas mae’n bosibl gwneud hyn). Mae Pwll-du yn ddrwg-enwog, a hynny’n enwedig am ei gysylltiad â smyglo. Ceir rhagor o wybodaeth yn y llyfr ardderchog Pwll Du Remembered gan Heather Holt, ISBN 0 9529165 0 9.

Wedyn roedd hi’n bryd dychwelyd gan gerdded ar hyd llwybr yr arfordir a manteisio ar y llanw isel i groesi traethau Brandy Cove (mwy o smyglo a hen fwynglawdd plwm), Caswell, Langland a Rotherslade.

Tywynnodd yr haul arnon ni drwy'r dydd a doedd dim cwmwl i'w weld; er nad oedd unrhyw fynyddoedd mewn gwirionedd, roedd 500 m o esgyn a disgyn a chawsom amrywiaeth o dirweddau, digon o gyffro a golygfeydd hardd. 

Ôl-nodyn: Mae Alison yn llawer rhy ddiymhongar i sôn am y diweddglo cofiadwy a gafwyd i’r daith – aethon ni i gyd draw i Lluest sy’n edrych dros draethau Rotherslade a Langland, a chael lluniaeth hyfryd. Mwynhaodd y cwmni yn llygad yr haul gan wybod ein bod ni wedi cael diwrnod i’w gofio. Diolch, Alison.

Adroddiad gan Alison

Lluniau gan Dewi ac eraill ar FLICKR