HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Cadair Fronwen, Cadair Berwyn a Moel Sych 19 Mehefin


Tywydd digon tebyg i’r Sadwrn gafwyd ar ail ddiwrnod penwythnos Teithiau Penllyn, yn sych ond oer ar y topiau gyda’r cymylau’n ddigon uchel i ganiatáu golygfeydd da a’r haul yn torri drwodd ar awr olaf y daith.

Wedi cyfarfod ym maes parcio hwylus Llandrillo, dringwyd yn serth i fyny ffordd y tu cefn i gapel a’r enw anghyffredin, Hananeel; mae’n debyg bod tŵr ym muriau Jerusalem o’r un enw a’i ystyr yw Trugaredd Duw. A thrwy drugaredd, roedd y dringo serth drosodd wedi llai na chilometr ac wedi cyrraedd y ffriddoedd agored roedd y cerdded yn dipyn mwy hamddenol. Oedwyd am baned gyntaf y dydd ger cylch cerrig trawiadol o’r Oes Efydd, Moel Tŷ Uchaf, a chyfle i fwynhau golygfeydd o ddyffryn Dyfrdwy oddi tanom.

Mae disgrifiad o’r cylch, gyda bedd-gist yn y canol, wedi ei gynnwys yn Meini Meirionnydd, llyfr rhyfeddol Huw Dylan Owen a’r ffotograffydd, David Glyn Lewis, ynghyd ag englyn gan Huw,

Er i’r aflan ddiflannu, – daeth diwedd
      i’r bedd a’r aberthu;
   Fe wêl drwy yr oesau fu
   ellyll fan hyn yn syllu.

Ymwelodd y ddau â phob heneb o’r fath ym Meirionnydd ac mae gan Huw Dylan englyn i’r dirgelwch sydd y tu ôl i’r meini hyn,

Mae yno fwy na meini, – hanesion
      hen oesau sy’n corddi
   yn y niwl i’n herio ni
   yn dawel – os gwrandewi.

Ond rhaid oedd troi cefn ar y gorffennol ac ymlaen â ni i gopa Cadair Fronwen, gan aros funud neu ddau’n unig yn y gwynt oer cyn disgyn i Fwlch Mae Gwynedd. Dyma’r maen a oedd, yn ôl traddodiad, yn dynodi’r ffin rhwng Gwynedd a Phowys ond mae’r maen ei hun wedi leoli yn y bwlch rhwng prif grib y Berwyn a chopa Tomla, ar grib yn ymestyn tua’r dwyrain. Gwnaed dargyfeiriad i’w weld, gyda Chwm Maen Gwynedd i’r de-ddwyrain a Ffynnon Maen Milgi i’r cyfeiriad arall, ar ochr Llandrillo o’r mynydd.

Roedd yn rhaid dringo’n serth yn ôl i’r brif grib ac am Gadair Berwyn a’i biler triongli, gyda’r gwir gopa tua 300 metr i’r gorllewin, 832 m neu 2732’ o uchder, man uchaf y Berwyn a’r copa uchaf yng Nghymru y tu allan i Barc Cenedlaethol. Wedi cinio, aed ymlaen i Foel Sych, gan edrych i lawr ar lyn Lluncaws a Chwm Pistyll yn ymestyn tua’r rhaeadr enwog a phentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Cyfeillion y de yn nodi bod y tirwedd yn eu hatgoffa o esgeiriau Bannau Brycheiniog a Bannau Sir Gâr.

Wedi dychwelyd i Gadair Berwyn dilynwyd y llwybr llydan a chlir lawr llechweddau Foel Fawr, gan oedi i sylwi ar Fwyar y Berwyn, planhigyn nad yw i’w gael, mae’n debyg, yn  unman arall yng Nghymru ond ar y Berwyn. Roedd rhai yn dal yn eu blodau ond y ffrwyth i’w weld yn datblygu ar ambell blanhigyn.

Croesi Nant Cwm Tywyll ger hen gorlannau a chael paned p’nawn yno cyn troi am y gogledd a thrwy ambell ddarn corslyd a chroesi Clochnant i gyrraedd ffordd drol oedd yn ein harwain yn ôl – wedi sgwrs â ffarmwr rhadlon Garthiân a oedd yn golchi dau warthegyn i’w paratoi ar gyfer eu dangos yn Llanelwedd – i Landrillo.

Cafwyd cwmni Digby, Bruce, Eurig, Meirion, Siân, Tegwen, Dafydd, Erddyn ac Eryl ar y daith

Yn rhifyn 16 Gorffennaf 1873 o Faner ac Amserau Cymru gwelir y cyfeiriad difyr hwn at Fwyar y Berwyn:
Dywedir fod yn y 5ed ganrif sant o'r enw Donwar yn preswylio yn Llanrhaeadr ym Mochnant... y traddodiad ymhlith hen fugeiliaid Berwyn ydoedd mai'r hyn a dderbyniai Dewi Sant bob blwyddyn am ei wasanaeth yn Llanrhaeadr oedd chwart o fwyar Berwyn, a hefyd ei bod yn hen arferiad a deddf yn y plwyf fod y sawl a ddygai chwart o'r mwyar hyn yn aeddfed i'r parson [sic] ar fore dydd gŵyl Donwar a gaed maddeuant o'r hyn a oedd yn ddyledus fel taliadau eglwys am flwyddyn. Enw gwyddonol y llysieuyn yw 'Rubus Chamoemorus’, ac mewn rhai blynyddoedd bydd ei ffrwyth yn dra phrin. Dywedir i dad Syr Watkyn gynnyg [sic] pum swllt amryw droion am bob mwyaren aeddfed a ddygid iddo. Ni wyddid paham yr oedd yn rhoddi'r fath bris arnynt.”

CYWYDD BERWYN gan Cynddelw

"Mwyar Doefon" mawr dyfiad;
Mwyara a llusa'n llon
Mewn byd wyf man bu Doefon
Ar garn y bre ger ein bron,
Yn foreu'i caid ar frig gwyn
Mor bur a mwyar Berwyn

Adroddiad gan Eryl Owain

Lluniau gan Eryl ar FLICKR