HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llanystumdwy i Borthmadog 19 Hydref


Nifer… 20

Tywydd…. Er y rhagolygon, y glaw yn cadw i ffwrdd ond gwynt cryf dwyreiniol yn hyrddio i’n hwynebau am ran helaeth o’r daith.

Manylion y daith
Rhai prydlon ydi criw dydd Mercher y Clwb, chwarae teg iddynt. Roedd pawb yn disgwyl bws Pwllheli mewn da bryd ger y Parc yn Porthmadog iddi’n cludo i Lanystumdwy. Rhaid oedd cael hyd i enw DLlG MP wedi ei naddu ar un o gerrig wal y bont gerllaw’r eglwys (llun yn y casgliad) cyn dechrau’r daith go iawn. Wedyn dilyn llwybr arfordir Cymru heibio ffarm Aberkin i lawr at geg yr afon Dwyfor ac ymlaen i Gricieth. Saib yno am baned ger cwt y bad achub cyn dilyn trac y trên at gyn-safle Black Rock Halt.

Gadael llwybr yr arfordir er mwyn cael man cysgodol allan o’r gwynt yng nghysgod y Greigddu i fwyta’n cinio. Yma mae afon Cedron yn cyrraedd y môr er ei bod wedi ei chladdu bellach. Ar ôl dringo ochr y Greigddu mae golygfeydd trawiadol i’w gweld i’r gorllewin am Gricieth a Phen Llŷn ac i’r dwyrain am draeth y Greigddu gyda’r Rhinogydd fel cefndir. Mi fyddai dilyn llwybr yr arfordir ar hyd tair milltir o dywod blinedig traeth Blac Roc dan draed yn ogystal â brwydro yn erbyn y gwynt wedi bod yn hurt felly’r dewis call oedd dilyn rhywfaint o darmac er mwyn cyrraedd eglwys Treflys a mynd trwy’r fynwent i lawr am Morfa Bychan heibio Glan Morfa Mawr. Gwau wedyn trwy faes carafanau Garreg Goch a dilyn y llwybr ar draws cwrs golff Morfa i ail ymuno â’r llwybr arfordir ar draeth Garreg Samson. Dringo serth ond byr, diolch byth, at y garreg ei hun ac ambell i un reit amheus o’r hanes a gefais yn ysgol Borth-y-gest mai Samson oedd wedi ei thaflud yno o gopa’r Wyddfa. Sgersli bilif bod hi rhywbeth i wneud ag oes yr iâ.

Nid yw cartref Dafydd y Garreg Wen heb fod yn bell felly penderfynwyd taro yno cyn herio’r gwynt wrth ddilyn rhes o draethau sef Garreg Gnwc, Garreg Goch a Garreg Llam cyn cyrraedd pentref Borth-y-gest. Pawb yn falch o’r siawns i ymlacio gyda phaned a chacan yno cyn mynd ar hyd lôn cei yn ôl at y ceir yn Port. Tua naw milltir o gerdded yn ôl y ffôns clefar a finnau wedi amcangyfrif saith.

Adroddiad gan Arwyn

Lluniau gan Gareth, Iolo a Rhiannon ar FLICKR