Cwm Teigl, Graig Goch a Llynnau Gamallt 19 Tachwedd
Daeth 16 ynghyd ar fore’r Cyfarfod Blynyddol i grwydro i gyfeiriad Y Migneint a Llynnoedd Morwynion a’r Gamallt. Wedi sawl ymgais aflwyddiannus i drefnu’r daith, roedd yr arweinydd gwreiddiol ar gyfer heddiw, sef Eifion o Lanrwst, o dan warchae y Covid.
Wedi mynd o dan bont y rheilffordd, buan iawn y daethom at y gamfa a’r giât i’r ffridd oedd i’n harwain i gyfeiriad Hafod Ysbyty a hefyd hen ffordd Rufeinig, Sarn Helen. Yn lle mynd at Hafod Ysbyty, aed ymlaen i gyfeiriad y de ddwyrain, gyda Craig y Garreg Lwyd uwch ein pennau. Oherwydd cyfyngiad amser, penderfynwyd osgoi y copa cyntaf yma heddiw, ac anelu at Lyn Morwynion. Roedd yn fore arbennig o braf, a mwynhawyd seibiant a phaned ger y llyn chwedlonol yma.
Prin oedd y llwybr pendant o Lyn Morwynion tuag at y Gamallt, ond anelwyd at Garreg y Foel Gron ac yna gopa’r Garnedd, gan fynd heibio olion hen chwarel Y Foel Gron. O’r Garnedd ar draws cors a llwybr annelwig at ddechrau crib y Gamallt. Bu’r cerdded ers amser paned yn galed, a phenderfynwyd oedi am ginio, cyn troedio’r grib gyfareddol yma. Ar y Gamallt aed dros y Graig Goch a’r copa difyr ei enw, y Clochdy, gan fwynhau golygfeydd i’r gogledd ddwyrain am Gwm Penmachno, ac hefyd i’r gorllewin a chwm Teigl a Dyffryn Ffestiniog a’r Ddwyryd .
Dilynwyd ffens tua’r gorllewin yn ôl, cyn ymuno gyda Sarn Helen unwaith yn rhagor, a disgyn at Hafod Ysbyty, gan ddilyn ffordd galed yn ôl at y ceir. Cafodd y daith ei hyrwyddo fel taith hamddenol ar hirddydd haf yn wreiddiol. Heddiw, gyda threfniadau ar gyfer cyfarfod blynyddol ar ein gwarthaf, bu’n daith gymharol galed ar dirwedd anodd, heb amser i hamddena. Ond diolch am gwmni Gwyn Chwilog a Gwen, Buddug a Gareth Wyn, Iolyn ac Eirlys, Bethan, Iolo, Gwyn a Paula, Gaenor, Sioned, Sian a Dwynwen, ynghŷd a chymorth John Arthur i arwain.
Adroddiad gan Gwyn Williams
Lluniau gan Sioned Llew a Gwyn ar FLICKR