Yr Wyddfa a’r Moelydd 20 Mawrth

  
Gwynt digon oer groesawodd y deuddeg ddaeth i’r lle parcio  ger hen chwarel Cefn-du ger Waunfawr ond gan fod haul ac awyr glir hefyd roedd  pawb yn edrych ymlaen at gyrraedd copa’r Wyddfa ar hyd un o’r llwybrau llai poblogaidd.
      
      Roedd amryw ar lethrau Moel Eilio a nifer ohonynt yn rhedeg;  ai hwn yw’r mynydd lle rydach chi fwyaf tebygol o glywed Cymraeg, gan ei fod  mor boblogaidd gan bobl leol? Wedi seibiant ar gopa’r uchaf (726 m) o’r  Moelwynion hyn i gael paned a mwynhau’r golygfeydd trawiadol tua dyffryn Peris  a’r Glyderau ar y naill law a Mynydd Mawr a Chrib Nantlle ar y llaw arall, aed  i lawr i Fwlch Cwm Cesig cyn codi eto dros gopaon Foel Gron a Foel Goch ac yna  disgyn yn serth i Fwlch Maesgwm, 467 m – dim ond tua 100 m yn uwch na man  dechrau’r daith!
      
      Tipyn o chwysu wedyn i fyny’r ysgwydd sydd â’r enw Bwlch  Carreg y Gigfran i gopa Moel Cynghorion cyn disgyn unwaith yn rhagor i Fwlch  Cwm Brwynog – dim ond tua 30 m yn uwch na Bwlch Maesgwm.
      
      Roedd yn dipyn prysurach wedyn gan ein bod yn dilyn Llwybr  Cwellyn (y Snowdon Ranger) am ran olaf y daith gyda chreigiau Clogwyn  Du’r Arddu ar y chwith. Manteisiwyd ar ddoethineb y Cadeirydd i grwydro ychydig  oddi ar y llwybr cyn cyrraedd y copa i gael cinio hwyr mewn man cysgodol o dan  waliau’r hen stablau ger y rheilffordd. Cyrhaeddwyd y copa tua dau o’r gloch;  er bod nifer yno doedd hi ddim mor brysur â’r disgwyl.
      
      Llwybr Llanberis oedd y ffordd i lawr a chyn cyrraedd Bwlch  Glas roedd arogl cryf rhyw fwg drwg yn amlwg iawn; clywyd wedyn gan eraill oedd  i fyny ychydig yng nghynt bod criw wedi cael parti yno, yn yfed, smocio a  chanu. Dyna braf ydi cael mwynhau tawelwch ar gopa mynydd!
      
      Yn hytrach na chroesi tan y bont ger Gorsaf Clogwyn a dilyn  y prif lwybr, aed dros gopa Llechog ac ymlaen at Tryfan (arall!) cyn ail-ymuno  â’r llwybr a throi oddi arno eto heibio gweddillion hen gapel Hebron, croesi  afonydd Arddu a Hwch ac i gyfeiriad Bwlch-y-groes yn ôl i’r man cyfarfod.
      
      Llawer o ddiolch i Sonia am arwain taith ddifyr tros ben –  tua 14 milltir efo dros 1400 m o ddringo – ac am drefnu tywydd cystal! Braf  oedd cael cwmni Simeon o ardal Llandeilo, David Levi o Gaerdydd a Curon ac Abi,  hwythau hefyd o’r brif-ddinas, yn ogystal â Dwynwen a Gerallt, Meinir Huws,  Berwyn Owen, Trystan Evans, Iolo Roberts ac Eryl. 
      
    Adroddiad gan Eryl
Lluniau gan Gerallt ar FLICKR
