HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol arall yr Wyddfa 21 Mai


Wrth gerdded y daith hon, anaml iawn y gwelwch chi gerddwyr eraill rhwng ei dechrau a chopa Carnedd Ugain ac fel hyn yr oedd hi i’r mynyddwyr ar y daith arbennig hon. Cadwodd y glaw a’r gwynt draw tan i ni gyrraedd copa’r Gyrn Las lle chafwyd cinio a hyfforddiant i Anna ar sut i roi trowsus glaw amdani!

Anelu wedyn trwy’r cymylau a’r gwynt a’r glaw i gopa Carnedd Ugain lle gwelsom rhai o’r ugeiniau a oedd newydd groesi’r Grib Goch.  Roedd y glaw yn dal i ddisgyn wrth i ni gyrraedd Hafod Eryri – doedd neb â llawer o awydd i ymuno â’r ciw i gopa mynydd uchaf Cymru a Gwlad Belg.

Wrth ddisgyn i lawr rhan uchaf Llwybr Watkin, roedden ni i gyd yn gytûn na welsom erioed y fath brysurdeb. Mae’r erydu a’r blerwch ar y rhannau hynny sydd heb eu trin gan Awdurdod y Parc yn tystio i gynnydd sylweddol yn nifer y cerddwyr sy’n ei ddefnyddio.

Amser ym Mwlch Ciliau, ar odrau’r Lliwedd, i fwynhau ail ginio cyn mwynhau esgyn tri chopa’r Lliwedd a oedd, diolch byth, yn dawel iawn. Lawr â ni wedyn i ailymuno â Llwybr y Mwynwyr wrth lan Llyn Llydaw cyn cwblhau’r daith ym Mhen-y-Pas.

Manylion: 8 milltir ac esgyniad o 4000 o droedfeddi.

Diolch yn fawr i’r criw hwyliog am eu cwmni difyr: Gethin; Dylan; Llio; Anna; Nia Wyn; Eifion; Buddug; Gareth Wyn; Iolo.

Adroddiad gan Roberts

Lluniau gan Richard ar FLICKR