Llyn Penmaen ac Islaw’r-dref 21 Medi
Taith gylch oedd hon o amgylch bryncyn creigiog Craig y Castell. Wedi cyfarfod ym maes parcio Llyn Penmaen, trowyd cefn ar afon Mawddach i ddringo’n raddol drwy goed Penmaen ond yna darn serth ond byr i ddod â ni i dir mwy gwastad o gaeau a choedydd heibio Gwern Barcud ac ymlaen at Faes Angharad a phaned. Yna croesi ffridd tuag at Gelli-lwyd, darn byr ar ffordd gefn a llwybr coediog ar hyd glannau Llyn Gwernan i faes parcio Tŷ Nant – man cychwyn poblogaidd un o lwybrau Cadair Idris. Cafwyd llecyn braf ger Tyddyn Ifan Fychan i fwynhau cinio a golygfeydd o lethrau serth y Gadair a Thyrau Mawr – a’r cymylau’n codi – a’r bwlch tua Nant y Gwyrddail a Phared y Cefn Hir.
Cawsom wybod gan un o’r criw (Merfyn) mai Tyddyn Ifan oedd man geni brawd hynaf ei daid, y bardd, newyddiadurwr ac argraffydd ap Hefin (Henry Lloyd 1870-1946) a dreuliodd y rhan fwyaf o’i oes yn Aberdâr. Ef yw awdur yr emyn I bob un sy’n ffyddlon a lluniodd hefyd englyn i hysbysebu cwmni Corona a ddefnyddiwyd yn helaeth ar un adeg
Corona yw coron pob Croeso
Mwyn yw dŵr yn mynd i waered - a mwyn
Yw y medd yn cerdded;
Os achos torri syched,
Y mwyna yw lemwnêd.
Efallai o fwy o ddiddordeb i Glwb Mynydda Cymru fyddai’r ddau englyn yma
Cader Idris
Mewn hedd, yn deyrn mynyddau, - y Gader
Ymgwyd uwch cymylau;
Greigiog ben y grugog bau,
Ger ei bron plyga’r bryniau.
Mynydd Moel
Dy wyneb a adwaenaf – uchel fryn,
A’th goryn, mi’th garaf:
O’th gofio, ochneidio wnaf,
O’th weled, y gwlith wylaf.
Ar y goriwared oedd hi wedyn, dros Ffrwd y Brithyll, heibio hen ffermdy Hafod Dywyll i Abergwynant a chroesi’r ffordd fawr i gyrraedd glannau Mawddach a llwybr yr hen reilffordd yn ôl i Lyn Penmaen a phaned neu lemonêd yng ngwesty Siôr III.
Diolch i Mags, Winnie, Nia, Meirion, Rhys, Gareth, Iona, Marged, Iolo ap, Eileen, Eirlys, Iolyn, Gwyn Chwilog, Rhian, Gwen, Arwyn, Alun a Merfyn a chroeso arbennig i Ann o Lanuwchllyn ar daith ‘flasu’. Gobeithio ein bod wedi plesio!
Adroddiad gan Eryl
Lluniau gan Iolo ar FLICKR