HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Yr Alban 21–28 Mai


Criw bach ddaeth i’r Alban eleni; Keith, Tegwyn, Dafydd, Ifan, Gareth ac Eryl yn aros yng ngwesty Loch Ness Lodge yn Drumnadrochit ger Inverness ac Elen, Siân a Gwyn yn eu camperfaniau ar faes gwersylla gerllaw ac yn cyrraedd ar wahanol adegau.

Wedi cyrraedd yn gynt na’r gweddill, manteisiodd Gareth ac Ifan ar y cyfle ar y dydd Sadwrn i ddringo Meall Chuaich, ar waelod gogleddol Bwlch Drumochter.

Gwlyb a llwydaidd oedd hi ar y dydd Sul wrth i Keith, Tegwyn, Dafydd ac Eryl deithio i’r gogledd tua Ben Wyvis. Dilynwyd llwybr braf trwy wyrddni newydd y gwanwyn uwchben ceunant Allt a’ Bhealach Mhoir ac yna lwybr da yn igam-ogami i fyny trwyn serth An Cabar i’r copa, Glas Leathad Mor, ac yna i lawr yr un ffordd. Glaw mân a chymylau isel gafwyd ar y cyfan ond os na chafwyd golygfeydd eang, gwelwyd planhigion megis Mwyar y Berwyn ac un Grugiar Wen yn union  wrth ein traed.

Brecwast sydyn oedd hi ar ddydd Llun er mwyn cyrraedd y giât i ffordd breifat Strathfarrar oedd yn agor am naw – ac yn cael ei chloi am saith y nos. Gan fod pedwar copa yn ein haros, roedd pob munud yn cyfrif! Roedd Elen, Ifan a Gareth wedi ymuno â phedwarawd Ben Wyvis a chan fod dau gerbyd gadawyd un ym man cychwyn y daith a symud y llall dros bedair milltir ymhellach i fyny’r cwm i’r man gorffen; penderfyniad doeth iawn.

Cerdded rhwydd gydag ymyl Allt Coire Mhuillidh oedd y cymal cyntaf yna’n fwy serth i’r copa cyntaf, Sgurr na Ruaidhe ac i’r cwmwl a’r glaw ysgafn. Roedd y cerdded yn eithaf cyfforddus ar dirwedd glaswelltog dros gopaon Carn nan Gobhar (mynydd yr afr), Sgurr a’ Choire Ghlais a Sgurr Fuar-thuill a’r bylchau rhyngddynt ddim yn rhy isel – ac yn glir o’r niwl. Er hynny, roedd yn dechrau mynd yn gyfyng o ran amser a rhaid oedd prysuro lawr cwm Allt Toll a’ Mhuic at fan Keith, yn ôl i’r man cychwyn a thrwy’r giât deng munud cyn iddi gael ei chloi.

Cafwyd diwrnod braf ar ddydd Mawrth ac aeth Ifan, Gareth, Tegwyn ac Eryl tua Glen Affric a chael llwybr hyfryd i fyny Gleann nam Fiadh ac yna crib yr un mor braf i gopa Tom a’ Choinich. Disgyn wedyn i’r bwlch rhyngddo ag ail gopa’r dydd, Toll Creagach. Diwrnod i ymlacio ar y copaon i fwynhau’r golygfeydd oedd hi cyn disgyn ar hyd ysgwydd ddeheuol Toll Creagach yn ôl i’r llwybr.

Gan fod Siân wedi dringo’r rhain o’r blaen, aeth hi i gyfeiriad Loch Cluanie, ym mhen uchaf Glen Shiel, gan fachu tri chopa – Carn Ghlusaid, Sgurr nan Conbhairean a Sail Chaorainn.

Diwrnod o fynd i grwydro neu i gerdded tir isel oedd dydd Mercher i rai ond wedi glaw trwm tan ganol p’nawn aeth Tegwyn, Keith, Gareth, Ifan ac Eryl yn ôl i Glen Affric i gerdded wyth milltir i’r hostel anghysbell yn Allbeithe a fyddai’n gartref iddynt am ddwy noson – a chartref clyd, cynnes a chysurus hefyd, er gwaethaf hyrddiadau’r gwynt a’r glaw y tu allan. Y bwriad ddydd Iau oedd tri chopa ond wedi cyrraedd y cyntaf, Mam Sodhail, mewn glaw a gwynt cryf, penderfynwyd troi’n ôl yn y bwlch rhyngddo a Carn Eige, y mynydd uchaf i’r gogledd o’r Glen Fawr, gyda chenllysg llorweddol yn gwneud pethau’n anodd. Bydd Carn Eige, a Beinn Fhionnlaidh, yn dal yno ar gyfer diwrnod arall! Wedi cyrraedd Bealach Coire Ghaidheil, a’r tywydd wedi gwella, bachodd Gareth ac Eryl fynro arall, An Socach ar y ffordd nol a chael diweddglo gwych i’r diwrnod wrth ddilyn nant Allt na Faing lawr i’r hostel a’r tir o’i hamgylch yn llawn tyfiant amrywiol gan fod ffensys uchel i gadw’r ceirw rheibus allan.

Glawiodd yn drwm dros nos a thrwy bore Gwener, gyda’r nentydd a’r afonydd yn gorlifo a’r penderfyniad anffodus oedd anghofio am ragor o gopaon ac aros tan y p’nawn i gerdded yn ôl at y ceir.

Gan eu bod wedi gwrando ar y rhagolygon tywydd, roedd Elen a Gwyn wedi aros tan ddydd Gwener i fynd i’r hostel a cyfarfu’r ddau griw yn y maes parcio – pump yn cyrraedd nol a dau ar gychwyn. A cafodd y ddau eu gwobrwyo efo diwrnod hyfryd o braf ddydd Sadwrn a chopoaon An Socach, Sgurr nan Ceathreamhnan a Mullach na Dheirgain – y diawliaid lwcus!

Diolch i Gareth Roberts am drefnu’r daith a hen dro nad oedd ef ei hun wedi gallu dod i’r Alban y tro yma.

Adroddiad gan Eryl

Lluniau gan Keith ag Eryl ar FLICKR