HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Llangyndeyrn 22 Ionawr


Awgrymwyd y daith yn wreiddiol gan y diweddar Gareth Pierce Llangyndeyrn yn nôl yn 2020. Oherwydd natur y tir, llwybrau a heolydd, penderfynwyd cyfyngu’r daith o gwmpas Mynydd Llangyndeyrn (ar ôl teithio ar y brif heol o Langyndeyrn i Grwbin). Hyn o achos diffyg cynnal a chadw o lwybrau cerdded ar ochr ddeheuol y B4306.

Felly, cychwyn o neuadd y pentre am 09.30 Cwrdd  â Lynwen (gweddw Gareth), ar gyrion pentre Crwbin. Ymlaen at bwynt ucha’r heol lle mae llwybr yn dechrau i groesi’r “mynydd”. Aethpwyd heibio maen hir, cyn esgyn at y grib garegog lle mae maen-mesur, ac yno hefyd nifer o olion o’r oes cerrig, efydd, ayyb – mor bell yn ôl â 6,500 o flynyddoedd. Cawsom hoe am ychydig i gael baned a darllen y maen gwybodaeth sydd ar y copa (262 m / 988’). Ymlaen eto i weld siambr claddu “Bwrdd Arthur”. Dychwelyd at y grib, croesi tir gwlyb trwy goedwig anniben i gwrdd â heol fferm sydd yn arwain at Capel Nebo (cyfansoddwyd englyn fan hyn!). Hwn yw’r pella aethon ni i’r dwyrain.

Troi tua’r gogledd, heibio prif fynedfa chwarel carreg-calch Torcoed. Ymlaen heibio tair o hen odynau calch ar ochr y lôn. Troi wedyn ar ôl ychydig, i’r gorllewin lle mae lwybr taclus o gwmpas y chwarel. Mae’r llwybr yma yn drawiadol – golygfeydd o graith enfawr y chwarel, yn enwedig ar y dechrau. Dilynwyd ymyl y chwarel am ryw filltir a hanner nes gyrraedd pentre Crwbin – dychwelyd yn nôl i Langyndeyrn. Cinio hwyr!
Credir, bod pawb wedi cael diwrnod boddhaol, er bod hi ddim yn debyg i’r her arferol! Bu’n foddhaol dros ben am fod dau-ddeg dau o Gymry wedi clebran am oriau wrth ymlwybro trwy gornel fach o Sîr Gâr a gadael eu gwaddol – gobeithio.
Diolch i bawb am y sgyrsiau difyr, cyfeillgar.
Hwyl - tan y tro nesa.

Adroddiad gan Bruce

Lluniau gan Haf, Bruce a Dewi ar FLICKR