HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Yr Wyddfa o Rhyd Ddu 22 Hydref


Efo rhagolygon tywydd Eryri y MWIS yn addo iddi “godi’n brafiach fel mae’r dydd yn mynd yn ei flaen gyda’r rhan fwyaf o’r copaon yn glir erbyn canol y pnawn” dyma adael Porthmadog yn yr haul efo dillad addas ar gyfer cawod neu ddwy…….
Roedd criw o 21 yn cychwyn o Rhyd Ddu a braf oedd cael croesawu Susan a Betsan ar eu taith gyntaf gyda’r Clwb. Gweddill y criw oedd Arianell, Sandra, Steve, Dafydd Thomas, Andras, Alice, Sonia, Matthew, Sioned, Richard, Eryl, Catrin, Iolo, Owain, Anna, Dafydd Legal, Elen a Gerallt.

Yn fuan ar ôl gadael y maes parcio, dim ond tua canllath i fyny’r llwybr, daeth y stop gynta i wisgo dillad glaw a dyna fu hanes gweddill y daith. Ar ôl cychwyn i fyny’r llwybr am Fwlch Cwm Llan dyma droi o’r chwarel tua’r Aran ac anelu am y copa gyda’r gwynt yn cryfhau a’r glaw yn dod yn fwy cyson. Mi gafwyd cysgod o’r gwynt i gael paned yn fuan ar ôl mynd dros gopa’r Aran ond doedd dim dianc rhag y glaw.

Oherwydd diffyg canolbwyntio (sgwrsio gormod!) ar fy rhan i cafwyd dro ychydig yn hirach ond cyrhaeddwyd Bwlch Cwm Llan yn y diwedd. Yma, penderfynodd 10 o’r criw eu bod wedi cael digon o wynt a glaw am un diwrnod ac aethant lawr y llywybr yn ôl i Rhyd Ddu.

Ymlaen i fyny Allt Maenderyn aeth gweddill y criw ac er na chafwyd dim mwy o law doedd na ddim gobaith gweld unrhyw olygfa. Er y tywydd roedd niferoedd mawr yn ciwio ar Yr Wyddfa i fynd i’r copa a dim ond un neu ddau o’n criw ni ddaru drafferthu mynd yno.

Gadawodd Elen ni ar gopa’r Wyddfa er mwyn bod adra yn gynt, gan adael criw o ddeg. Ar ôl cinio sydyn dyma ddod lawr llwybr Cwellyn cyn torri ar draws trwy chwarel Glan yr Afon a dros Clogwyn y Gwîn yn ôl i Rhyd Ddu.

Er y blip efo’r nafigetio, y miwtyni ym Mwlch Cwm Llan, colli Elen ar gopa’r Wyddfa dwi’n meddwl bod pawb wedi mwynhau herio’r elfennau, faint bynag o fynydda naetho nhw. Ar fy rhan i, dwi’n amau byddai “gellir gwell” yn yr adroddiad os fasa rhywun arall wedi ei sgwennu hi…

Adroddiad gan Dwynwen

Lluniau gan Gerallt a Sioned ar FLICKR