HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal Llandudno/Bae Penrhyn 23 Chwefror


Ar ôl i stormydd Dudley, Eunice  a Franklin greu llanastr yn y wlad ac achosi i ddwy daith gael eu gohirio roedd yn ryddhad gweld tywydd braf ar fore’r 23 Chwefror. Promenâd Llandudno oedd y man cyfarfod ac wedi cael pwt o gyflwyniad i’r daith yng nghysgod gorsaf y bad achub cychwynnodd y deunaw ohonom ar hyd y ffordd oedd yn arwain heibio i Ffynnon Sadwrn a chaeau Bodafon am ardal Nant y Gamar.

Yn fuan roeddem yn gadael y ffordd darmac ac yn dilyn llwybr trwy’r coed ac er mawr syndod i ni gwelsom dylluan yn ein gwylio o gangen uchel. Roeddem yn tybio i ddechrau mai tylluan gorniog oedd hi, ond diolch i waith ditectif Dewi, cafwyd ar ddeall wedi’r daith mai tylluan fawr neu dylluan yr eryr (eagleowl) oedd y creadur. Roedd wedi dianc rhyw ddeufis ynghynt o Fferm Bodafon gerllaw a methiant fu pob ymdrech i’w chael i ddychwelyd. Yn ôl y perchennog mae’n goroesi trwy hela’r cwningod ar y fferm.

Aeth ein llwybr â ni o gwmpas Nant y Gamar a thrwy Coed Gaer heibio i neuadd Gloddaeth, hen blasty y teulu Mostyn, adeilad sy’n dyddio o’r 16fed ganrif ond sydd erbyn heddiw yn rhan o ysgol fonedd St David’s. Cawsom ginio mewn coedlan fach arall cyn dringo i gopa cynta’r diwrnod a’r unig “fynydd” ar y daith – Mynydd Pant (130 m). Oddi yno cawsom olygfeydd da ar hyd arfordir gogledd Cymru a mynyddoedd Eryri tu cefn i ni. Gwelsom hefyd adeilad oedd yn hen felin wynt wedi ei hadeiladu ar gyfer Syr Roger Mostyn ar ddechrau’r 17fed ganrif.

Rhaid oedd croesi’r ffordd brysur rhwng Bae Penrhyn a Llandudno i gyrraedd ail hanner y daith sef Trwyn y Fuwch a gwarchodfa natur Rhiwledyn. Wedi cerdded am ychydig ar hyd Llwybr Arfordir Cymru daethom at Borth Dyniewaid, bae bach caregog lle gorweddai tua 30 o forloi llwyd. Bu cryn drafodaeth am darddiad yr enw cyn i Gareth ymgynghori hefo geiriadur Prifysgol Cymru a chadarnhau mai hen enw am forlo ydi dyniewyd y môr. Prawf felly fod y morloi yn yr ardal ers amser maith.

Oddi yno roedd y llwybr yn codi’n serth drwy olion hen chwarel galchfaen (1889 – 1931). Arferai’r calchfaen gael ei allforio i’r Alban i’w ddefnyddio mewn ffwrneisi. Yn ystod yr ail ryfel byd defnyddiwyd y safle fel maes ymarfer tanio magnelau. Yn rhywle yn yr ardal yma ar greigiau Rhiwledyn mae hefyd ogof lle cafodd y llyfr cyntaf yng Nghymru ei argraffu.* Wedi dringo ychydig eto cyrhaeddom bwynt ucha’r daith sef copa Trwyn y Fuwch a’r gwynt mor gryf erbyn hynny roedd yn anodd sefyll yn syth. ‘Roedd pawb yn falch o ddod yn ôl i lawr i gysgod y graig a’r palmant yn ôl at y ceir.

Y deunaw oedd ar y daith oedd Margaret, Nia, Winnie, John Arthur, Mair, Iona, Rhian, Haf, John Parry, Anet, Gwyn, Nia Wyn, Dewi, Arwel, Buddug, Gareth (Tilsley), Aneurin a Dilys.

* Yn ôl yr hanes, mewn ogof ar lethrau Rhiwledyn yr argraffwyd y llyfr cyntaf yng Nghymru, yn oes Elisabeth 1af. Roedd Robert Puw o Neuadd Penrhyn, sydd dafliad carreg o’r ogof, yn parhau i arddel y ffydd Gatholig mewn oes pan oedd Pabyddion yn cael eu herlid gan y Protestaniaid. Yn 1585, gyda chymorth rhai offeiriaid,  dechreuodd argraffu llyfryn bach o’r enw “Y Drych Cristionogawl” i ledaenu’r ddysgeidiaeth Gatholig. Ddwy flynedd yn ddiweddarach daeth yr awdurdodau i wybod am y wasg ddirgel ac anfonodd Syr Thomas Mostyn o Gloddaeth garfan o 40 milwr i atal y gwaith. Tybiwyd ganddynt ei bod yn rhy beryglus mynd i mewn i’r ogof y noson honno, gan fod y fynedfa’n anodd a hithau’n nosi, felly dyma wylio’r ogof drwy’r nos rhag i’r offeiriaid ddianc. Erbyn y bore, pan aethant i mewn iddi, cawsant yr ogof yn wag – y rhai oedd ynddi wedi dringo allan trwy dwll simdde yn y brif siambr!

Adroddiad gan Dilys.

Lluniau gan Aneurin, Gareth a Gwyn ar FLICKR