HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Ardal y Llechi 23 Mawrth


Mae’n debyg fod yr addewid am dywydd braf yn rhannol gyfrifol fod dros 30 ohonom wedi ymgasglu ym maes parcio Rhostryfan ar gyfer taith dydd Mercher mis Mawrth a chawson ni mo’n siomi.

Roedd y daith yn cychwyn ar hyd Llwybr Llechi Bryngwyn, llwybr lein y trên bach fyddai’n cario llechi o chwareli Moel Tryfan, Cors y Bryniau a’r Fron rhwng 1887 a 1937. Âi’r trên cyn belled â Dinas lle trosglwyddid y llechi i drên ar y brif lein i orffen eu taith i Gaernarfon. Am gyfnod byddai teithwyr o bentrefi Carmel a Rosgadfan yn cael eu cario hefyd. Cafwyd cipolwg dros y clawdd ar adfeilion gorsaf Bryngwyn lle dôi taith y trên i ben. Oddi yno roedd wagenni nwyddau a glo yn cael eu codi ar inclên ddwbwl a’r wagenni llechi yn cael eu gostwng yr un pryd, pwysau’r naill yn codi’r llall. Roedd yn bosib cerdded rhan o’r inclên a chael cip ar y cwt drwm ar ei phen. I fyny heibio’r tomennydd llechi wedyn at gopa Moel Tryfan lle cafwyd seibiant am ginio a chyfle i ddarllen am ymweliad Darwin â’r fan. Roedd y ffordd i lawr yn croesi’r dramffordd tua chwarel Cors y Bryniau cyn anelu am Foel Smytho, Mynydd Grug Begw a Wini Ffini Hadog mae’n debyg. Oddi yno croesi’r Lôn Wen a dilyn llwybr i Tryfan Junction lle’r oedd cangen Bryngwyn yn gadael prif lein y Welsh Highland Railway a’i dilyn yn ôl i Rostryfan.

Diolch am eu cwmni i Gwyn, Linda, Gwen a Rhian o Chwilog, Nia Wyn, Margaret, Gwen Rds a Rhodri o Fôn, Haf, Arwyn, John P a John W o gyffiniau Porthmadog, Eryl, Dewi Aber, Iona Llanddoged, Glyn Tomos, Alun Rbts, Rhian Llanrug, Rhys Llwyd, Ann Cooper, Nia Wyn Seion, Nia Povey, Rhiannon a Clive, John Arthur, Nest a Ken, Gwenan R a Gwynfor J o Lȳn a Huw Bethesda.

Adroddiad gan Anet

Lluniau gan Gwyn, Anet, Gwenan ac Arwyn ar FLICKR