HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Rhwng Nedd ac Afan 23 Ebrill


Os ydi’r Rhinogydd yn anial a thawel(adroddiad taith 18 Ebrill) yna yn sicr mae’r disgrifiad yn wir hefyd am gopaon a chefnennau blaenau cymoedd Morgannwg o ran cerddwyr beth bynnag. Roedd ein llwybr wrth godi o Gwm Afan dros Graig Gyfylchi drwy’r goedwig yn croesi llwybrau beicio mynydd ac mi welson ni ambell un o’r rheini. Roeddan nhw’n cael mwy o drafferth na ni os rhywbeth ar ambell i allt serth!

Ennyd fer lle mae olion hen gapel Gyfylchi sy’n adfail ers blynyddoedd maith a chyn hynny roeddem wedi mynd heibio’r agoriad i dwnnel yr hen rheilffordd oedd yn arfer cario  glo i lawr i borthIadd Britton Ferry ger Llansawel.

Teithio i lawr wedyn i Gwm Pelenna a dilyn llwybrau droediwyd ar un o deithiau’r Clwb union dair blynedd ar ddeg yn ôl!  Y newid mwyaf oedd bod rhai llethrau o goed conwydd wedi eu clirio a’u hailblannu’n gymharol ddiweddar gan ddatgelu natur greigiog llawer o’r llechweddau uchaf.  Roedd melinnau gwynt uwch ein pennau ar y copaon ond dim enaid byw i’w cyfarch yn unman.

Mae’r gorffennol yn agos iawn ym mlaennau’r cwm yma a llawer cwm arall – hen waliau cerrig oedd yn ffin i’r hen ystadau mawr cyn i’r coed eu disodli rhyw ganrif yn ôl. Shafftiau glo a llwybrau hen reilffyrdd angof wedi eu haddasu i ni’r cerddwyr – rhai’n dyddio o ddechrau’r 19ganrif.

Cawsom hoe wrth edrych i lawr y cwm ar y gwlypdiroedd brwyn oedd wedi eu creu dros ugain mlynedd yn ôl (y cyntaf yn Ewrop) i geisio lleddfu’r llygredd o’r hen byllau a siafftiau glo. Roedd yna haearn yn y gwythiennau glo hefyd ac mae’r dŵr yn asidaidd iawn yn y blaen nentydd ac yn effeithio’n andwyol iawn ar y bywyd gwyllt. Mae’r cynllun wedi bod yn llwyddiannus iawn ac wedi ei fabwysiadu ar draws y byd erbyn hyn.  

Wedi codi o Gwm Pelenna roeddem ar y gefnen ac yn edrych dros Gwm Nedd a thua’r gorllewin a’r gwynt yn cryfhau’n arw. Ennyd arall wrth adfeilion hen gaer Rufeinig er nad oes llawer i’w weld bellach. Ei throedio hi wedyn ar hyd hen ffordd drol i lawr Cwm Gwenffrwd heibio pentref Tonmawr ac olion hen bwll arall a sawl tomen lo wedi eu hadfer. Croesi’r afon a trwy rhyw ryfedd wyrth dod o hyd i ben arall yr hen dwnnel yn y drysni! Codi eto i ben Craig Gyfylchi ac i lawr i Gwm Afan a’r man cychwyn yng Nghanolfan Afan Argoed.

Diolch am gwmni Alison, Bruce, Dewi, Elin, Eurig, Lynwen, Meirion, Pens, Pwt, a Rhun fy nghyd arweinydd a’n hanesydd lleol. Er i mi ddweud 9 milltir, roedd y rhai â’r teclynnau diweddaraf yn dadlau â’i gilydd ei bod rhwng 11 a 12 milltir neu 18 cilomedr. Pwy a ŵyr!! 

Adroddiad gan John              

Lluniau gan Dewi ar FLICKR