Taith y Cerrig Gleision 23 Gorffennaf
Daeth 15 ohonom at ein gilydd ar fore Sadwrn braidd yn fwll yn Nhafarn Y Bwlch, i’r de-orllewin o Fryneberian, cyfeirnod SN 083 336. Er mai murddun yw Tafarn y Bwlch mwyach, mae yna gofnod o 1729 yn dweud fod tafarn yma.
Y cerddwyr oedd Digby a Helen, Rhys Dafis, Edryd, Aled Eynon, Tony, Eurig, Aled Evans, Huw Lewis, Rhun, Eileen, Elin, Hefin Wyn, Richard Mitchley a Meirion. Roedd rhai o’r cwmni wedi dod am y tro cyntaf i flasu taith CMC, a gobeithiwn eu gweld yn dod yn aelodau o’r clwb cyn hir. Arweiniwyd y daith gan Richard a Meirion.
Roedd y daith yma wedi ei chanoli mwy neu lai ar Fynydd y Preseli ei hunan, a sydd yn weundir uchel gyda brigiadau caregog. Adnabyddir y Preselau fel Gwlad yr Hud a Lledrith, a byddai eisiau cyfres o deithiau i wneud cyfiawnder a’i holl haenau, - ei hanes daearegol, hanes dynoliaeth o’r cynfyd, hanes y Mabinogi, ei draddodiadau amaethyddol, diwydiannol, diwylliannol, chymdeithasegol a’i Chymreictod. Mae cyfoeth awen beirdd lleol fel Waldo, W R Evans, Eirwyn George ac eraill yn dal yn fyw iawn yn yr ardal a thrwy Gymru gyfan. Mae’r enwau ar leoedd, ac ar ffarm a bwthyn yn gyforiog o hanes ac ystyron fel ym mhobman arall.
I’r sawl sydd eisiau dysgu mwy am yr holl elfennau yma, mae llyfr ardderchog Dyfed Elis-Gruffydd, “Y Preselau, Gwlad Hud a Lledrith” yn ddechread gwych, ac a fuodd yn gefndir gwerthfawr i’r daith yma.
Disgrifiodd y bardd o Tegryn Tomi Evans yr ardal fel hyn:
Daear rhamant a garw drumau,-cwmwd
Y cwmin a’r creigiau:
I’n cenedl, tir ei chwedlau,
Anial fyd yr hen helfâu.
Ac yna W. R. Evans mewn awdl yn dweud am y gymdogaeth:
Un hwb i’w gilydd oedd eu bugeilio,
Yn cario adref eu defaid crwydro;
Rhannu braich a rhannu bro yn grynswth,
O fwth Carnabwth i ffald Pen Nebo.
Tra mae Eirwyn George yn disgrifio’r Preselau fel hyn:
Piau eu hedd? Bro’r copâu-a eilw’r
Galon o’i doluriau;
Hyd y fawnog dof innau,
Yma mae balm i’n bywhau.
Roedd y daith yn ymweld â’r mannau sy’n gysylltiedig gyda’r traddoddiad fod rhai o’r cerrig gleision sy’n ffurfio cylch mewnol Côr y Cewri ar Wastadedd Caersallog wedi eu cludo oddi yma. Tros y ganrif ddiwethaf, mae sawl theori wedi’u cynnig i drio esbonio sut y bu i rhyw 43 o’r cerrig yma, (allan o’r 80 sydd yno a sy’n pwyso tua dwy dunnell yr un), gael eu cludo yno, a hynny dros ryw bellter o 180 milltir.
Mae rhai o’r farn y cludwyd hwynt o fewn y llen iâ drwchus a orchuddiau bron y cyfan o Gymru, (ac i fyny bron at y ffin gyda Lloegr) i fyny tan rhyw 11,300 mlynedd yn ôl, ac a oedd yn araf-lifo tua’r De-ddwyrain. Mae damcaniaethau eraill yn cynnig eu bod wedi eu cludo dros dir a môr, ac eraill eto yn cynnig eu bod wedi eu cludo dros dir yn unig.
Ar ddechrau’r daith rhoddodd Richard amlinelliad o’r damcaniaethau hyn i gyd, ond gan ganolbwyntio ar y theori a gynigir gan yr Athro Mike Parker Pearson. Mae ef yn honni fod y cerrig wedi’u cloddio o ddau le ar y Preselau, sef o Garn Goedog ar Fynydd Preseli ac o Graig Rhos y Felin ger Ffynnon Groes, wedi’u trawsgludo dros y tir yr holl ffordd i Gaersallog gan dîmau o bobl. Mae yna beth tystiolaeth gwyddonol i gefnogi’r theori yma. Yn ogystal mae’n honni fod y cylch cerrig gleision sydd heddiw’n rhan o Gôr y Cewri wedi sefyll yn gyntaf ar Waun Mawn, ucheldir sydd ger Tafarn y Bwlch, cyn cael ei godi, ei drawgludo, a’i ail-godi drachefn ar wastadedd Caersallog. Mae’n honni ei fod wedi dadorchuddio olion o’r cylch gwreiddiol yma ar Waun Mawn, ac yn honni fod diamedr y cylch hyn ac un Côr y Cewri yr union yr un maint. Mae’n honni fod y cylch gwreiddiol wedi ei osod tua 3000 CC, a fod tystiolaeth gwyddonol i brofi fod y cerrig yma wedi’u hail-osod yng Nhôr y Cewri rhyw 500 mlynedd yn hwyrach. Honna hefyd fod y ddau gylch wedi’u cyfeirio yn union yr un fath tuag at godiad haul a’r heuldro canol haf. Mae theori MPP yn adfywio damcaniaeth hanesyddol o ddyddiau Sieffri o Fynwy sy’n honni fod pobl oes yr Efydd wedi mudo o’r gorllewin i wastadedd Caersallog, gan fynd â chylch cerrig oedd yn ganolog i’w crefydd gyda hwynt. Serch hyn, mae’r theori yma’n cael ei wrthwynebu’n chwyrn gan lawer eraill.
Sylfaen daearegol y mynydd yw cerrig llaid a sialau, ond bu achlysuron pan fu echdoriadau llosgfynyddoedd cannoedd o filiynau o flynyddoedd yn ôl yn peri i lafa ymwthio drwy’r haenau yma i ffurfio rhyolitau a doleritau, a sydd yn arddangos craciau colofnog sylweddol, ond hefyd yn ffurfio’r tyrrau neu’r carnau sydd mor nodweddiadol o grib y Preselau. O ganlyniad mae’r tirlun yn cynnwys nifer fawr o olion defodol a chladdu o’r Oes Efydd pan ddefnyddiwyd rhai o’r cerrig o’r creigiau yma i ddynodi’r mannau cysegredig hyn.
Mae’r graig sy’n ffurfio Carn Goedog yn Ddolerit Smotiog, a sydd yn debyg iawn i Ddolerit cerrig gleision Côr y Cewri. Fel y dywed y daearegwr E Llwyd Williams, mae’r tyrrau igneaidd yma yn ymddangos fel “petai’r ddaear wedi gwthio’i hesgyrn trwy ei chroen”. Ond grym erydol y llen iâ a fu’n rhannol gyfrifol am erydu’r cerrig llaid, gan ddwyn y cerrig caled, (y tyrrau) i’r golwg. Mae nodweddion sy’n dangos y grym yma i’w gweld ar wyneb y graig/palmant rhewlifol. Ymgasglodd meini rhewfriwiedig a iâ-dreuliedig yn gludeiriau, ac mae llawer ohonynt hwnt ac yma, tra bod “cerrig estron” o’r Dolerit Smotiog yma i’w cael cyn belled â Chaerfaddon.
Mae ymchwil arall yn dangos mai o Graig Rhos y Felin y daeth llawer o’r darnau niferus o Ryolit sydd yn ardal Côr y Cewri. Mae’r graig yn Graig Rhos y Felin yn slabiau mawr naturiol, a gallai rhain fod wedi eu cloddio’n hawdd o’r famgraig. Ond ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth bendant i brofi mae o Graig Rhos y Felin y daeth meini Rhyolitig Côr y Cewri.
Mewn glaw ysgafn, o’r man cychwyn anelodd y daith mewn niwl cynyddol i gyfeiriad y de, a thrwy dir corsiog tuag at y grib sy’n rhedeg o Foel Eryr yn y gorllewin hyd at Foel Drygarn yn y dwyrain. Wedi cyrraedd y grib cerddwyd ar ei hyd-ddi heibio Foel Feddau, a sy’n feddrod o bwysigrwydd cenedlaethol o’r Oes Efydd, ac felly rhwng 2300 ac 800 CC oed. Ymlaen wedyn at Cerrig Marchogion sy’n frigiad o’r graig ddolurit Yn ôl y chwedlau mae’r enw’n cyfeirio at farchogion Arthur, ac efallai ’n benodol at yr arwyr Gwarthegydd, Tarawg, Rheiddwn ac Isgofan a fu yn ôl y chwedlau yn hela’r Twrch Trwyth. Cloddiwyd y rhan gorllewinol yn gynnar yn y ddeunawfed ganrif pan ddarganfuwyd gweddillion amlosgfa dynol mewn llestr a ddyddiwyd i’r Oes Efydd Cynnar. O’r man yma gwelwyd hefyd olion hen fferm ar y llethrau islaw, ac sydd yn dyst i ddefnydd dwys o’r tir mewn oesoedd a fu.
Ymlaen ac i lawr y llethr wedyn i’r gogledd-ddwyrain tuag at Carn Goedog, sef y garn a ddisgrifir yn flaenorol fel cloddfa rhai o gerrig gleision Côr y Cewri, a lle y cafwyd saib mewn cyfnod sych i gael tocyn. Gwelwyd fod y garn yma eto yn frigiad o binaclau a phileri, ond y tro yma o ddolerit smotiog, a sydd drwy gyfrwng profion gwyddonol wedi ei brofi i fod yr un ffunud a cherrig gleision Côr y Cewri.
Er hir syllu ni welwyd unrhyw argoel o’r Twrch Trwyth. Wedi’r saib, ac wrth i’r niwl fynd a dod yn yr awel ysgafn, gwelwyd tiroedd y dyffryn islaw wedi eu goleuo’n llachar, a daeth i gof y “môr goleuni” y soniodd Waldo amdano.
I lawr ychydig wedyn at Carn Alw, sef gweddillion bryngaer o’r Oes Haearn, (800 CC -74 AD), sef cyfnod goresgyniad y Rhufeiniaid. Dyma frigiad arall sy’n ffurfio amddiffynfa naturiol, ond gyda’r ffurfiadau daearegol wedi eu atgyfnerthu gyda rhagfur cromennog o thua 1 medr o uchder oddi fewn, ac o rhyw 3.5 medr oddi allan, a gyda darnau o’r welydd cerrig wedi parhau mewn mannau. Islaw’r bryngaer mae ardal o “chevaux-de-frise” wedi goroesi, sef cyfres o gerrig yn ffurfio band o thua 40 medr o led, ac a fyddai wedi analluogi ymosodiad ar droed neu ar geffyl. Mae’n bosib y bu’r bryngaer yn ganolbwynt i ardal eang o gaeau ac anheddau. Pery’r bryngaer mewn cyflwr gweddol dda, ac mae o bwysigrwydd cenedlaethol, ond heb ei gloddio gan archaeolegwyr hyd yma.
I lawr ymhellach wedyn a chyrraedd fferm Mirianog Ganol a thiroedd cyfoethog y dyffryn. Arweiniodd ein trywydd heibio coedlannau a chaeau pori, ac ar hyd rhwydwaith o heolydd bychain a llwybrau cerdded nes cyrraedd tyddyn Helygnant. Yma cafwyd fod iet ar draws y llwybr wedi ei chloi, a bu rhaid i bawb ei dringo, cyn dringo eto dros ffens ar draws y llwybr ar bendraw’r tir. Ymlaen wedyn nes cyrraedd Pont Saeson, sy’n bont dros afon Brynberian. Yma cymerwyd llwybr drwy goedlan ledrithiol o hardd nes cyrraedd Craig Rhos-y-Felin, sef yr ail safle ar y daith lle yr honnir fod cerrig wedi eu cloddio a’u cludo i Gôr y Cewri. Yma mae brigiad anferth o Rhyolit yn codi o lawr y dyffryn cul, a sydd wedi ei ffurfio yn golofnau mawr. Gellid yn hawdd ddychmygu fod y slabiau yma wedi cynnig eu hunain i gael eu cloddio’n feini defodol.
Ymlaen wedyn at y tir uchel tua’r gorllewin, a sydd yn ffurfio gwahanfa rhwng afonydd Brynberian a Nanhyfer, ac i lawr i gyrraedd pentref hardd Brynberian. Ymlaen wedyn drwy’r dolydd gan gael cinio tra’n eistedd ar ddarn o glawdd traddodiadol Sir Benfro. Erbyn hyn ‘roedd glaw trwm yn dod yn gyson, ond ni lethwyd yr ysbryd. Cyrhaeddwyd y ffordd sy’n arwain o Ffynnon Groes tuag at Tafarn y Bwlch pan agorodd y nefoedd, a phenderfynodd y rhan fwyaf gerdded ar hyd y ffordd at y ceir. Penderfynodd dyrnaid dewr gerdded at Waun Mawn i weld y man lle honnir fod cerrig gleision Côr y Cewri wedi sefyll mewn cylch am rai canrifoedd cyn cael eu codi a’u cludo i wastatir Caersallog, a’u codi drachefn yno i ffurfio’r côr enwog.
Hyd y daith oedd 12.5 milltir dros 6.4 awr, tra esgynnwyd cyfanswm o 588 medr.
Adroddiad gan Meirion a Richard
Lluniau gan Meirion a Richard ar FLICKR