HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Penwythnos Hyfforddiant Glan-llyn 23-25 Medi


Derbyniodd 11 o bobl ifanc benwythnos o hyfforddiant mynydda yng Nglan-llyn ar 23 – 25 Medi ar gwrs wedi ei noddi gan yr arian a gyfranwyd er cof am Gareth Pierce. Profiad braf i’r criw ac i hyfforddwyr yr Urdd oedd cael croesawu Lynwen Pierce i’w cyfarfod ar y nos Sadwrn. Roedd rhai wedi dod o cyn belled â Chaerdydd, eraill o Aberystwyth, Dyffryn Nantlle a Bethesda. Wedi taith fer o Lanuwchllyn hyd at Garth Isaf a pheth ymarfer sgiliau map ar y nos Wener, treuliwyd y Sadwrn mewn tywydd braf iawn ar Gadair Idris. Ar y Sul, cawsant brofiad o sgrialu ar Y Gribin a thros Gastell y Gwynt i gopa Glyder Fach. Y canlyniad – pawb wedi mwynhau eu hunain yn fawr, a’r Urdd yn awyddus i gynnal penwythnosau tebyg eto. Llawer o ddiolch i Lynwen a’r teulu am fod yn fodd i gynnig y profiad hwn i’r bobl ifanc; byddai wrth fodd calon Gareth eu gweld yn magu blas at fynydda a chael cymdeithasu a’u cyd-Gymry. A diolch hefyd i Llinos a Gerallt am y trefnu a’r arwain ar ran yr Urdd.

Lluniau ar FLICKR