HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Llechog 24 Medi


Cyfarfu 11 ohonom yn y cae parcio i’r de o’r maes parcio swyddogol yn Nant Peris, sef, Trystan, Llio, Math, Dafydd L, Nia Wyn, Eifion, Hywel W, Sioned, Catrin, Iolo a finnau.

Cychwynom gerdded at hyd ochr y ffordd i gyferiad Gwastad Nant a chroesi’r afon i gyfeiriad Cwm Hetiau a Crib Llechog. Er  fod y tywydd yn wlyb pan gychwynais o adre, gwella ddaru’r diwrnod a chafwyd tywydd braf gydol y diwrnod a peth haul. Dechreuom  ddringo’n serth ac anelu i’r dde o’r bwtres nes cyrraedd man cychwyn y grib. Roedd y sgrialu’n weddol hawdd ond yn ddigon diddorol mewn mannau a cyrhaeddom y copa mewn dwy awr a hanner. O fanno gwelsom nifer o gerddwyr ar lwybr Llanberis.

Cychwynom  wedyn oddi yno i gyfeiriad Gorsaf Clogwyn ac ymuno a dwsinau o gerddwyr a oedd wedi cyrraedd ar y tren. Cafwyd dipyn o oedi yn fanno gan fod hofrennydd wedi dod i’r golwg ac yn gollwng rhai o’r criw i ddelio a rhywun a oedd wedi cael anaf ar y llwybr. Oddi yno anelom i gyferiad Gyrn Las a chopa Carnedd Ugain a chael cinio yno hefo golygfeydd arbennig i bob cyfeiriad. Aethom wedyn ar hyd y grib i gyfeiriad Crib Goch ac erbyn hyn, roedd yn braf gweld y mynydd yn weddol wag. Yn ddigon rhyfedd, daethom ar draws cerddwyr a oedd gyda’r argraff ein dod o dramor gan ein bod yn siarad Cymraeg!

O ben draw y grib, cymerwyd y grib gogleddol lawr i Cwm Uchaf ac yna y llwybr serth lawr i Cwm Glas Mawr ac yna i’r ffordd yn Blaen Nant. Wrth gyrraedd, wnaeth rhai ohonom ddal y bws i’r maes parcio a wnes i redeg tacsi gyda’r fan i nôl y gweddill.

Cafwyd diod haeddiannol yn y dafarn leol. Diolch i bawb am eu cwmni hwyliog ar ddiwrnod da o fynydda.

Adroddiad gan Gareth Wyn

Lluniau gan Hywel Watkin ar FLICKR