HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Chwareli Llechi Dyffryn Nantlle 25 Mai


Rhan o Awdl CWM CARNEDD – Gwilym R Tilsley
Sbwriel o chwarel wedi’i chau, - a niwl
Y nôs ar y crawiau;
A gwaith dyn fel brethyn brau
Yn braenu rhwng y bryniau.

Mae’r englyn yma gan GRT. yn crisialu’r awyrgylch ar ein tro i’r dim. Ar fynydd Cilgwyn mae’n debyg y cychwynnwyd cloddio am lechi gyntaf yng ngogledd Cymru. Yn wahanol i’r ardaloedd llechi eraill, pobl leol agorodd y chwareli yma gan mai o dan y tir comin oedd y llechi. Yn ôl y sôn, fe geisiodd Syr Wynne, sgweiar Glynllifon, hawlio’r tir comin drwy godi wal o’i gwmpas, ond bob nos byddai’r chwarelwyr lleol yn tynnu’r wal i  Iawr ac ni lwyddwyd i feddiannu’r tir.

Daeth pobol yma o Ben Llŷn ac Ynys Mon i weithio a chwyddodd y boblogaeth. Er fod y chwareli’n llai, cafwyd llawer mwy o ddamweiniau yma nag yn yr ardaloedd llechi lle efallai roedd offer gwell neu reolau mwy caeth?

Cychwynnwyd y daith drwy chwareli bychan Llanllyfni lle mae sawl twll wedi ei agor. Yma ceir llechi o amrywiol liwiau – yn arbennig yn chwareli Tŷ’n y Weirglodd, Nantlle Vale a Thŷ Mawr, lle ceir llechi coch a gwyrdd. Wedi cerdded i lawr i Dal y Sarn, fe aethom ymlaen drwy brif chwarel y dyffryn, Dorothea, sydd wedi ei henwi ar ôl Dorothea Garnons -  gwraig perchennog  y tir. Mae’r prif dwll bellach yn cael ei ddefnyddio i ddiben hamddena!

Cafwyd seibiant bychan yn Coffi Poblado gyda chyfle i flasu ac arogli’r coffi ffresh. Saif Coffi Poblado ar safle hen farics oedd yn perthyn i Chwarel Penyrorsedd ac mae busnesau eraill hefyd ar y safle. Yna dringo’n raddol drwy gyrion Chwarel Penyrorsedd cyn ymuno â llwybr yr hen Reilffordd Haearn i fynd a ni at Chwarel y Cilgwyn. Oddi yma gellir gweld panorama’r ardal i gyd.  Yna i lawr ar hyd hen lwybrau’r chwarelwyr ar hyd ochr ogleddol Cilgwyn, heibio Clogwyn Melyn yn ôl i Winllan Pant Du am baned.

Os am wybod mwy am chwareli Dyffryn Nantlle ewch i bori drwy gyfrolau Dewi Tomos neu Gwynfor Pierce Jones. Diolch i’r canlynol am ymuno â ni ar y daith:
Mags, Nia Wyn a Winnie o Ynys Môn, Gareth Tilsley, Rhys Llwyd, John Arthur, Nia Wyn Seion, Haf, Gwen Evans, Iona Evans, Rhian Jones, Anet, Glyn Tomos, Alun Roberts, Merfyn Lloyd, Huw Bethesda, Gwyn Chwilog, John Parry ac Arwyn.

Adroddiad gan Rhiannon a Clive

Lluniau gan Rhiannon ag Anet ar FLICKR