HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

15 Copa 25 Mehefin


Efo’r rhagolygon tywydd yn newid bron bob awr roedd dydd Gwener yn ddiwrnod pryderus iawn. Dwn i’m sawl gwaith nes i newid fy meddwl ond yn diwedd y penderfyniad oedd y byddai’n saff i fynd. Doedd na ‘run o’r criw wedi meddwl ildio i’r tywydd, neu dim yn gyhoeddus o leia.

Dyma gyfarfod yn maes parcio Nant Peris am 3:00yb ac o fewn ychydig funudau daeth cawod drom yn argoel o beth oedd i ddod. Y criw hwyliog, hyd yn oed am 3:00yb, oedd Manon, Ieuan, Iolo, Heulwen, Gethin, Lowri, Dylan, Trystan a Guto o Gaerdydd ar ei daith gyntaf efo’r Clwb. Roedd pawb wedi gadael pac bwyd a diod yn un o’r ceir yn Nant Peris a rhoi pac arall yng nghar Gerallt i’w gael yn Nyffryn Ogwen.

Mewn amodau eitha heriol dyma gychwyn dros Crib Goch, y gwynt ddim rhy ddrwg ar y grib ond hyrddiadau cryf ofnadwy yn y bylchau. Braf oedd cael copa’r Wyddfa i ni’n hunain am ychydig funudau cyn cael y gwynt tu ôl i’n chwythu ni lawr i Nant Peris.

Ar ôl cael mwy o fwyd dyma gychwyn ar y ddringfa hiraf i ben Elidir Fawr ond braf oedd gweld golygfeydd o’r copaon eraill wrth ddringo. Nath y golygfeydd ddim para yn hir a cafwyd awr dywyll iawn dros Y Garn efo glaw a chenllysg i’n gwynebau yn ddi dor nes cyraedd Llyn y Cŵn. Penderfynodd Guto ei fod wedi cael digon a gadawodd ni i fynd nôl lawr i Nant Peris. Dros Glyder Fawr dan gwmwl ond cafwyd ysbeidiau heulog rhwng y cawodydd dros Glyder Fach a Tryfan.

Rhoedd pawb yn falch iawn o’i gêr sych oedd yn disgwyl yn Ogwen. Rhwng cael dillad sych a caniau o Expresso gan Gerallt mi fywiogodd pawb. Criw siriol iawn adawodd Glan Dena i gychwyn y ddringfa hir olaf i Ben yr Ole Wen. Erbyn hyn doedd neb yn cymeryd llawer o sylw o’r cawodydd trwm a’r gwynt cryf ond doedd hi ddim yn daith i fedru sgwrsio llawer. Ar ôl cawod o genllysg hegar iawn wrth ddringo o’r Elen i gopa Carnedd Llywelyn dyma ddisgyn o’r cymylau a mynd am Foel Grach efo golygfeydd gwych o Ddyfryn Conwy yn haul hwyr y dydd.

Llwyddwyd i gyrraedd y copa olaf, Foel Fras, fel oedd hi’n tywyllu ond buan iawn oedd angen y lampau pen i anelu am Llyn Anafon. Roedd y blinder yn amlwg wrth gyrraedd maes parcio Abergwyngregyn toc wedi hanner nos ond pawb dal mewn hwyliau da. Saith o’r criw yn falch iawn o’u hymdrech i gerdded y 15 Copa am y tro cyntaf, Iolo yn falch o fedru cyflawni’r gamp yn ei 60fed mlynedd a fina jysd yn falch bod pawb yn ôl yn saff.

Diolch i Gerallt am ein cefnogi a diolch i Lowri a Trystan am fynd a ceir i Abergyngregyn noson cynt.

Adroddiad gan Dwynwen

Lluniau gan Dwynwen a Iolo ar FLICKR (ychydig iawn ohonyn nhw - doedd hi ddim yn ddiwrnod tynnu lluniau)