Pen yr Ole Wen i Fethesda 27 Awst
Pen yr Ole Wen i Fethesda
 llethrau ysgithrog Nant Ffrancon
yn gwisgo gwrid blodau grug
dringodd y bws at Ben y Benglog
a phowlio ar hyd glannau Llyn Ogwen
cyn ein gosod yn dwt yng Nglan Dena’.
Deg ohonom yn pontio
hanner canrif mewn oed
gydag un nod:
copa Pen yr Ole Wen
ac wyth carnedd fendigedig arall.
Gan fwrw golwg gwerthfawrogol tua’r Garn
yn torheulo’n braf yn haul y bore
troesom nepell o Ffynnon Lloer,
ac ymestyn coesau a breichiau
i fyny’r grib greigiog,
tua Bwlch Pen yr Ole Wen.
Cymerom lymaid ganol bore ar y copa
wrth i gadachau o niwl arnofio,
a chreu golygfa ddarniog,
hudol.
Gan droi ein cefnau ar asgell anferth Tryfan,
“osŷm” chwedl y Sais,
anelom ein trwynau am Garnedd Dafydd,
pasio dros ei chopa graeanog,
a syllu lawr yr Ysgolion Duon,
yn fud gyda pharchedig ofn.
Gyda bol yr arweinydd yn nodi,
mae’n agosau at amser cinio,
dyma fynd amdani a chyrraedd y goron,
i lowcio brechdanau blasus
a golygfeydd diguro
dros fynydd, dyffryn, gwastadedd a môr
ar ben Carnedd Llywelyn.
Dyma rannu stori hefyd,
y cynta’ o nifer,
un i bob copa.
Hanesion tywysoges a thywysog,
bugail a dyn dall,
canu emynau a chladdu plentyn
wrth i ni ymbalfalu dros garnedd, aryg, fera a drosgl.
Daeth tro difyr yng nghynffon y daith
wrth i ni bigo’n ffordd lawr bowlen greigiog Tan y Garth
ac ymlaen ar hyd lôn Carneddi
i freichiau croesawgar Y Sior
a thorri syched ymysg y cwmni hawddgar.
Diolch i Matthew, Owain, Anna, Sonia, Nia, John, Gwyn, Eifion a Iolo!
Adroddiad gan Siân Shakespear
Lluniau gan Siân ar FLICKR