HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Mynydd Mallaen 28 Mai


Yng ngogledd Sir Gaerfyrddin mae'r llwyfandir Mynydd Mallaen. Ar ddiwrnod braf mae'r golygfeydd yn fendigedig — ac roedd hi'n braf ac yn sych ar y daith hon. Gellid gweld Bannau Sir Gâr a draw i Fannau Brycheiniog a thu hwnt i'r gorllewin yn ogystal â mynyddoedd y Canolbarth.

Daeth 11 o gerddwyr at ei gilydd. Croesawyd Rowena, sy'n byw yn agos i Fynydd Mallaen, i'w thaith gyntaf gyda'r clwb. Mae hi'n cofio crwydro'r mynydd ar gefn merlen pan yn blentyn ac yn gwybod llawer am hanes yr ardal. Esboniodd fod llawer o bobl leol yn ynganu enw'r mynydd â'r pwyslais ar y sillaf olaf — Mallân. Cawsom hanesion difyr am greigiau sydd ddim hyd yn oed yn ymddangos ar y map. Sonia un stori am 'y dyn hysbys', sef John Harries o Bant Coy, Cwrt y Cadno a holltodd hen hir faen i brofi ei bwerau arbennig.

Dechreuon ni gerdded ym maes parcio Coedwig Cwm y Rhaeadr cyn mynd i gyfeiriad y gogledd drwy'r goedwigaeth, dilyn Nant y Rhaeadr a chyrraedd hen gwt y sgowtiaid. Troi'n ôl wedyn i gyrraedd y tir agored, cyn igam ogamu uwchben Craig Rhoson. Wedyn, cyrhaeddon ni'r llwyfandir a cherdded ymlaen i'r piler triongl, 429 m lle cawson ni 'de deg'.

Ymlaen i'r gorllewin i'r bwlch uwchben Cwrt y Cadno a throi er mwyn mynd yn ôl dros Ben Cerrigdiddos, heibio i Grugiau Merched a chael mwy o hanesion difyr gan Rowena. Ymlaen heibio i Faen Bach, hirfaen arall ac yn ôl i'r man cychwyn.

Braf oedd cael cwmni rhywun sy'n gwybod cymaint am yr ardal.  Hefyd ar y daith, roedd Dewi, Pwt, Pens, Elin, Alison, Eurig, Bruce, Rhun, Helen a Digby.

Adroddiad Gan Digby Bevan .

Lluniau gan Dewi ar FLICKR