HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Y Garn ac Elidir Fawr 30 Ionawr


Wrth deithio i Nant Peris yn y bore roeddwn yn ansicr sut byddai’r tywydd ar y daith. Roedd Storm Malik wedi mynd heibio y diwrnod blaenorol ac roedd cynffon Storm Corrie i fod i daro Eryri yn ddiweddarach yn ystod y prynhawn gyda rhagolygon o wyntoedd cryfion.

Roedd yn sych pan gychwynodd 14 ohonom o Nant Peris a dilyn y llwybr serth hyd ochr Afon Las. Roeddem allan o’r gwynt yn ystod y rhan yma o’r daith a chawsom baned y bore yn mwynhau golygfeydd o Nant Peris cyn mynd yn ein blaenau. Roeddem i gyd yn falch pan aeth ddringfa yn llai serth a’r codi yn raddol nes cyrraedd Llyn y Cŵn.

Dilyn y llwybr amlwg wedyn i gopa’r Garn. Erbyn hyn roedd y tywydd yn dechrau dirywio, y gwyntoedd yn codi a’r copa yn y cymylau. Llwyddwyd i gyrraedd copa’r Garn erbyn amser cinio a chawsom egwyl i fwyta yn cysgodi o’r gwyntoedd cryfion o dan y creigiau ochr Nant Ffrancon. Gan fod y gwyntoedd mor gryf erbyn hyn fe gododd y cymylau am gyfnod ac fe gawsom olygfeydd lawr i Gwm Idwal, Nant Ffrancon a’r Carneddau. Roeddwn yn hynod o falch gan mai dyma dro cyntaf Andras a Morfudd ar gopa’r Garn.

Wrth iddi ddechrau oeri fe symudom yn ein blaenau ac anelu am Elidir Fawr. Wedi dod o’r cysgod a chychwyn i lawr o’r Garn fe gawsom wyntoedd hegar ac oer iawn. Gan fod y rhagolygon yn addo’r tywydd i waethygu, penderfynais mai’r peth doethaf oedd troi am i lawr a chwtogi’r daith. Dyna a fu ac fe ddilynon lwybr braf ar hyd braich Esgair y Geunant at Afon Dudodyn cyn dilyn y llwybr yn ôl i Nant Peris. Wrth ddod lawr roeddem yn gweld y cymylau yn chwipio dros Elidir Fawr ar wib ac roeddwn yn falch nad oeddem yn gorfod brwydro yn erbyn y gwyntoedd cryfion yno. Bydd yna dro eto!

Llawer o ddiolch i’r canlynol am eu cwmni difyr yn ystod y dydd ac am eu parodrwydd i dderbyn y newidiadau i’r cynlluniau:
Alun Caergybi, Andras,  Dafydd Legal, Dylan,  Gareth, Ifan, Meinir, Morfudd Richards, Rhian Roberts, Rhys, Richard, Sian a  Tegwen

Adroddiad gan Iolo Roberts.

Lluniau gan Iolo, Morfudd a Richard ar FLICKR