HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Tryfan a’r Glyderau, Y Garn i Fethesda 31 Gorffennaf



Petawn yn penderfynnu peidio cychwyn am ddiwrnod o fynydda pob amser mae'r tywydd yn sâl ben bore, debyg y byddwn yn colli allan ar ddiwrnodau ac atgofion gwych. 

Deg ohonom yn cyfarfod ym Methesda a un arall yn ymuno gyda ni ychydyg hwyrach. Gethin, Dylan, Dwynwen, Gerallt, Anwen, Carys, Iolo, Anna a Manon. Roedd pawb braidd yn wlyb erbyn i ni ddal y bws o Fethesda ac am 9 o'r gloch ar fore Sul roedd digon o le i barcio wrth llyn Ogwen pan gyraeddom i gychwyn y daith. Yn amlwg roedd y mwyafrif wedi gweld y glaw ben bore a mynd yn ôl iw gwlau. Un mantais, wrth gwrs, oedd cael Tryfan i ni'n hunain a buan fu'r tywydd wella. Dim ond Clwb Mynydda Cymru a'r geifr!

Ar gerrig gwlyb roedd angen ychydyg o bwyll i sgrialu i fyny Crib Ogleddol Tryfan ond mi oedd ddigon cynnes ac o fewn hanner awr dyna oedd yr olaf o'r glaw am y diwrnod. Carwyn yn dal i fyny gyda ni ar ôl gweithio fel oeddwn yn cychwyn sgrialu. Tri yn parhau hyd y grib a gweddill y grŵp yn mynd i fyny Nor Nor Gulley a chyfarfod ar y copa gogleddol. Doedd dim i'w weld ar y copa felly ymlaen a ni cyn cael paned gysgodlyd o dan y copa deheuol cyn gostwng o dan y cymylau i gael golygfa o lyn Bochlwyd.

Lawr am y llyn ac yna ail ddringo a sgrialu unwaith eto am gopa Glyder Fawr i fyny'r Gribyn. Roedd digon iw weld erbyn hyn gyda'r haul yn ymddangos o'r diwedd a'r cymylau wedi codi. Braf oedd cael cinio ar gopa Glyder Fawr a thawelwch yn ogystal a tywydd da. Yn amlwg roeddwn rhyw 2 awr o flaen pawb oedd wedi mynd yn ôl iw gwlau ben bore!

Gwella wnaeth y tywydd fel aethom ymlaen dros y Garn, Foel Goch, Mynydd Perfedd a Charnedd y Ffiliast i roi golygfeydd anhygoel o Ddyffryn Ogwen mewn un cyfeiriad ac Ynys Mon yn y cyfeiriad arall. Gwaith caled oedd o'n blaenau yn hwyr yn y dydd gyda coesau trwm i ostwng o lethrau serth Carnedd y Ffiliast am Lôn Las Ogwen drwy'r grug. Awyr las, a noson fending erbyn i ni ddychwelyd i Fethesda.

Diwrnod gwych a braf cael cyfarfod aelodau newydd unwaith eto. 

Adroddiad gan Stephen Williams

Lluniau gan Gerallt Pennant ar FLICKR