HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Arenig Fawr a Moel Llyfnant 1 Ebrill


Prif nodwedd y daith yma oedd ei bod yn daith o ddau hanner.
 
Cychwynnodd yr hanner cyntaf pan gyfarfu naw aelod a minnau ger Chwarel Arenig ar fore llwydaidd a chymylog gyda’r bwriad o ddringo Arenig Fawr a Moel Llyfnant. Wedi cerdded ychydig ar hyd y lôn ac wedyn lôn drol, cyrraedd Llyn Arenig Fawr a manteisio ar y cyfle i fusnesu yn y cwt ger y llyn. Roedd yn amlwg bod rhywun wedi ei ddefnyddio yn ddiweddar gan fod coed tân wedi eu gadael ger y lle tân ond doedd neb i’w gweld o gwmpas. Yn ein blaenau wedyn i fyny’r gefnen serth at y Castell. Toc roeddem yn y niwl ac yn gweld llawer o ddim am weddill y ddringfa i’r copa er bod teimlad fod yr haul yn ymdrechu i ddangos ei hun drwy’r cymylau ar adegau.

Wedi cyrraedd copa Arenig Fawr cafwyd cinio yn lloches allan o’r gwynt cyn cychwyn drwy’r niwl am Foel Llyfnant. Wrth ddisgyn i lawr yn mwyaf sydyn roeddem allan o’r cymylau ac mewn heulwen braf ac awyr las a dyna sut y bu hi am weddill y diwrnod. Roedd fel petai rhywun wedi pwyso botwm i newid y tywydd – a dyma ni ar ail hanner y daith.

Yn y bwlch rhwng y ddau gopa, fe ffarweliwyd â Dilys ac aeth y gweddill ohonom yn ein blaenau i groesi darn gwlyb iawn rhwng y ddau fynydd. Roeddem yn falch o ddechrau dringo cyn bo hir allan o’r gwlybdir am gopa Moel Llyfnant. Roedd y praidd o gerddwyr yn rhai gwasgaredig iawn ar y ffordd i fyny! Heb lwybr amlwg roedd pawb yn dewis ei ffordd i hun i fyny yn raddol cyn ail-ymgynnull ar y copa i gael paned sydyn a mwynhau’r golygfeydd bendigedig o holl fynyddoedd Meirionnydd o’n cwmpas, gyda’r  Wyddfa a chopaon eraill gogledd Eryri i’w gweld yn glir a hyd yn oed ucheldiroedd y Berwyn a Phlumlumon yn y golwg yn y pellter.

I lawr wedyn am Amnodd Bwll a mwynhau paned olaf y dydd mewn llecyn ger y coed yn llygad yr haul. Ar ôl Amnodd Wen roedd yn rhaid wynebu darn gwlyb arall o’r llwybr (awgrymwyd y byddai cwch wedi bod yn ddefnyddiol  yma!!) cyn cyrraedd yr hen reilffordd a gwneud ein ffordd yn ôl i’r ceir.

Llawer o ddiolch i Dilys, Erddyn, Gareth Wyn, Gwyn (Llanrwst) John Arthur, Rhiannon, Sandra, Paula a Gwyn am eu cwmni difyr. Y tro cyntaf i Rhiannon fod i fynu Arenig Fawr a Moel  Llyfnant a’r tro cyntaf i Erddyn gyrraedd copa Moel Llyfnant.

Adroddiad gan Iolo Roberts

Lluniau gan Dilys, Erddyn, Rhiannon a Sandra ar FLICKR