HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Pedol Cwm Llwch 1 Ebrill


Dyma naw ohonom yn cyfarfod a’r fore digon gwlyb a niwlog i anelu at gopa Pen y Fan o’r cyfeiriad gogleddol (ochr Aberhonddu).Tybiaf hon yw’r ffordd mwyaf ddramatic i gyrraedd y copa i ffwrdd o brysurdeb y llwybr i fyny o Storey Arms.

Mae’r daith yn cychwyn o faes parcio bychan ym mhen uchaf anghysbell Cwm Gwdi ar hyd ffordd garegog hen chwarel gan codi’n serth tuag at Gefn Cwm Llwch. Er nad yw’r grib yn fain o bell ffordd, roedd yna deimlad iachus o ryddid yr awyr agored wrth gerdded ar i fyny gyda dau gwm rhagorol y naill ochr a’r llall, Cwm Llwch i’r dde a Chwm Sere i’r chwith. Yn anffodus, o achos y niwl trwchus dim ond dychmygu beth sydd i’w weld on cwmpas roedd hi tro hyn! Er y niwl, braf oedd cael seibiant bach i dynnu llun ar y copa (886 m) heb fawr o neb o gwmpas (sy’n anarferol).

O’r Corn Du, a nifer wedi cyrraedd yno serch y niwl, cawsom sgwrs gyda criw o ferched roedd wrthi yn gwneud pedol o Graig Fan Ddu. Yn aml, mae rhai yn tybio eu bod wedi cyrraedd copa Pen y Fan gyda gwaedd o foddhad dim ond i sylweddoli fod tua deng munud arall nes cyrraedd Pen y Fan!

Wedi troi tua’r gogledd-orllewin ar hyd Craig Cwm Llwch, dyma gyrraedd obelisg Tommy Jones (gweler y stori drist yma yn llyfryn Copaon Cymru – taith 43). Yma mae’r llwybr yn newid cyfeiriad yn sydyn i lawr at Lyn Cwm Llwch, sy’n enghraifft arbennig o lyn rhewlifol. Braf oedd cael cael cinio yma gan ddiolch am weld y niwl yn codi o’r diwedd a braf oedd cael gweld gogoniant y cwm am y tro cyntaf a chrib Cefn Cwm Llwch yn ymddangos o'n blaenau.

Mae llwybr amlwg yn arwain tua’r gogledd o gyfeiriad y llyn ar hyd y cwm gan ddilyn nant fach hyfryd Cwm Llwch. Eto,hyfryd oedd gweld gwyrddi Cwm Gwdi o'n blaenau a mynydd Epynt yn y pellter. Dyma groesi sticyl, gan ddilyn y llwybr mynydd sy’n troi yn heol fferm a croesi bontbren gan fynd trwy’r maes parcio. Roedd rhaid cymeryd gofal yma gan fod gymaint o law wedi troi y tir o dan ein traed yn llithrig. Blin oedd gweld ambell un yn disgyn gan godi gyda haen o fwd coch Sir Frycheiniog ar eu dillad! O gadw’n syth ymlaen a thrwy gât, dyma gyrraedd at gyffordd a troi i’r dde. Wedi croesi pont Rhyd-y-betws roedd angen cerdded ar hyd yr heol am tua 1.6 km nes cyrraedd croesfan arall cyn troi i’r dde eto i gerdded fyny yn ôl tua’r man cychwyn.

Cymerodd y daith tua pum awr gyda oedi i fwynhau y daith â’r cyfle i sgwrsio. Gyda gwynt wrth gefn, heb oedi byddai modd gwneud y daith yn hwylus dan bedair awr. Hyd y daith yw 7 milltir a hanner gan godi tua 2034 troedfedd.

Braf oedd cael cyfle I grwydro y Bannau unwaith eto mewn cwmni hwyliog.

Adroddiad gan Dewi.

Lluniau gan Alison a Dewi ar FLICKR