HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Taith Calan - Yr Wyddfa 2 Ionawr


Diwrnod llwyddiannus; dechrau’r daith gyda 22 a diweddu gyda 23 wedi i Geraint ymddangos o’r niwl rhywle rhwng y Grib Goch a Chrib y Ddysgl! Roedd y rhan fwyaf wedi parcio yng nghyffiniau Pen y Gwryd a dal bws Sherpa i fan cychwyn y daith ym Mhen-y-pas.

Buom yn hynod ffodus o ran y tywydd; diwrnod sych heb fawr ddim gwynt, yng nghanol dyddiau lawer o dywydd gwlyb a diflas, a diwrnod eithaf clir hefyd ar wahân i gymylau ystyfnig yn cuddio copaon Yr Wyddfa a Charnedd Ugain – ond y cymylau hynny hefyd yn ychwanegu at yr awyrgylch wrth i lafnau o haul dorri trwodd.

Rhannwyd yn ddau griw ym Mwlch y Moch, gydag wyth yn parhau ar hyd llwybr PyG a thri ar ddeg yn troi am y Grib Goch i rannu’r profiad efo rhai dwsinau o gerddwyr eraill – ac ambell un yn eu plith wedi dewis llwybr cwbl anaddas i’w profiad a’u gallu. Yr hen, hen stori! Er mai ychydig o eira meddal diweddar oedd ar y grib, roedd angen gofal gan fod y graig yn wlyb a llithrig ac ambell glwt o eira rhewllyd o Grib y Ddysgl ymlaen.

Daeth y ddau griw i gyfarfod ei gilydd hanner ffordd rhwng Bwlch Glas a chopa’r Wyddfa, a’r wyth ddewisodd y llwybr rhyw hanner awr ar y blaen. Roedd yn eithaf prysur ar y copa felly rhyw dri neu bedwar yn unig o griw’r grib oedd efo’r amynedd i aros eu tro i ddringo i’r man uchaf i’n cynrychioli ni oll, tra’r turiodd y gweddill i’w bagiau’n awchus i chwilio am ginio hwyr a derbyniol iawn.

Ar i lawr wedyn gan ddewis llwybr y Mwynwyr a chyrraedd nol i Ben-y-pas i ail ymuno â’r gweddill oedd yn aros am fws – a ddaeth o fewn deng munud – i’n cludo nol at y ceir.

Diwrnod gwych, a dechrau rhagorol i fynydda 2023. Diolch i Dylan Edwards, Richard Roberts, Keith Roberts, Steve ac Adrian, Siân Williams a Siân Shakespeare, Dwynwen a Gerallt, Sioned Llew, Wil Thomas, Manon Davies, Gwyn Deiniolen, Iolo Roberts, Rhys Dafis a chynrychiolaeth dda o Ynys Môn – Gethin ac Andras, Sandra a Rhiannell, Dafydd a Cian Owen.

Adroddiad gan Eryl Owain

Lluniau gan Gerallt, Sioned ag Eryl ar FLICKR