HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Gwawrio Carnedd Moel Siabod 2 Rhagfyr


Cychwynnodd 17 ohonom o’r gilfan ger y Ganolfan Awyr Agored Cenedlaethol yng Nghapel Curig ar fore tywyll ac oer. Canmoliaeth fawr i’r 17 person wnaeth fanteisio ar y daith mewn tywydd gaeafol. Cefais y pleser o gwmni Andras, Anna, Dafydd, Dwynwen, Dylan, Dylan Huw, Erddyn, Erwyn, Gethin, Owain, Sandra, Sioned,  Stephen(Pesda) Braf oedd cael cyfarfod a chwmni newydd fel aelodau, ac unigolion ar ei thaith flasu gyntaf, sef Ceirian, Sioned, Huw Waters a Gethin Jones. 

Dyma bawb yn cychwyn ar amser, fel a drefnwyd, am 5.30. Taith ddigon arferol ar ei fyny gyda sawl toriad am fymryn o seibiant ac edrych yn ôl ar oleuadau pentrefi ac arfordir Gogledd Cymru, ‘roedd mor glir fel medrid gweld y llwyfan nwy a’i fflam yn llosgi'r gorlif nwy, a thyrbinau gwynt â’u goleuadau llachar coch ym Mae Lerpwl.

Dyma gyrraedd y llinell cymylau, ac i fewn a ni wedi closio at ein gilydd. Wrth gyrraedd y bwlch rhwng Moel Siabod a Charnedd Foel Siabod, dyma'r awyr yn goleuo yn fflam goch a sawl un yn manteisio ar y cyfle i dynnu lluniau. Yr Haul yn cychwyn ar ei thaith gwawr ddyddiol wrth godi yn y Dwyrain. Ond, yn anffodus, dim y wawr brydferth yr oeddem wedi ei gobeithio amdano a gawsom. Dim ond cymylau coch/oren cynnes eu lliw oedd ar gael yn ystod ein hamser ar y copa. Dyma bawb yn anelu am y copa ei hyn, â’r “Selfie Copa” sydd bellach yn arferol gan pob unigolyn ar ein theithiau.

Aethom i lawr yn ddigon sydyn, gan fod galw am ein brecwast llawn diwethaf ni fel clwb yn y Caffi Siabod cyn iddynt gau ac anelu am orwelion newydd.

Diolch i bawb am ei cwmni.

Adroddiad gan Keith Tân.

Lluniau o'r daith gan Keith ar FLICKR