Creigiau Gleision a Phenllithrig-y-wrach 3 Mehefin
Penderfyniad doeth oedd newid yr amser cychwyn i 8.30 gan mai cael a chael oedd hi i gael lle yn y maes parcio yng Nghapel Curig. Soniodd y rhai oedd wedi croesi Bwlch Llanberis neu wedi teithio o Ddyffryn Ogwen bod y llefydd parcio i gyd yn orlawn cyn gynhared â hynny. I ble’r aeth yr holl bobl? Wel, nid (diolch byth!) tua’r Creigiau Gleision a Phenllithrig gan mai dim ond un cerddwr arall a welsom drwy’r dydd!
Dilynwyd y llwybr tuag at Grafnant cyn troi tua Clogwyn Mawr i fyny llechwedd serth ond byr i roi prawf cynnar ar y cymalau. Roedd y llwybr hwnnw, sydd wedi ei ledu a’i balmentu’n ddiweddar, i’w weld yn amlwg oddi tanom ar rannau cyntaf y daith ond y farn gyffredinol oedd y byddai’n asio i’w gefndir yn raddol. Cadwyd at y grib, yn hytrach na dilyn llwybr is heibio Llyn Coryn, gyda rhai’n manteisio ar gyfle i sgrialu dros ambell graig, i gyrraedd copa Crimpiau a phaned ddeg. Ar i lawr wedyn cyn dringo eto tros Graig Wen, Moel Ddefaid a Chraiglwyn i gopa Creigiau Gleision a dilyn llwybr troellog ar hyd y grib i’r copa dwyreiniol.
Deg gychwynnodd y daith ond er i un orfod troi’n ôl yn fuan ar y daith (teimlo hen anaf yn achosi problem) roeddem yn ôl i ddeg wedi cyfarfod Janet Buckles yno yn yr haul yn mwynhau ei chinio wrth aros amdanom. Roedd wedi cychwyn yn gynnar i chwilio – a chanfod – planhigion megis y derig yn yr hafnau uwch Llyn Cowlyd.
Erbyn hyn mae’r llwybr am Lyn Cowlyd yn fwy clir os yw rhywun, wedi croesi camfa amlwg, yn dilyn y ffens tan y drydedd camfa ac yna troi i’r chwith i lawr at yr argae. Wedi ei groesi, penderfynodd un gerdded yn llwybr gyda glannau’r llyn, tra dilynodd y gweddill ffordd drol i gyfeiriad hen chwarel cyn troi i’r chwith yn fuan wedi iddi fforchio, ymlaen cyn belled â giât a throi ar i fyny heibio i olion awyren i’r gefnen yn arwain at Benllithrig-y-wrach. Codi’n raddol wedyn gyda golygfeydd da o Gwm Eigiau, Craig yr Ysfa a Charnedd Llywelyn gyda darn olaf serth i gyrraedd man uchaf y daith.
Ar i lawr wedyn drwy goed llys toreithiog i gwrdd â Dafydd oedd yn aros amdanom ym Mwlch Trichwmwd ac yna tri-chwarter awr o gerdded hamddenol dros dir sych corsdir Tal-y-waun yn ôl i Gapel Curig a gorffen y dydd gyda diod haeddiannol yn Nhŷn-y-coed.
Y criw oedd Siân Shakespear, Janet Buckles, Heini Jones, Richard Roberts, Gethin Rhys, Dafydd Dinbych, Gwyn Deiniolen, Gareth Wyn, Eryl a dau ddaeth ar y daith flasu, Erwyn o Flaenau Ffestiniog ac Iwan o Lan Conwy – ond dau fynyddwr brwd a phrofiadol iawn. Diwrnod gwych o haul ac awel fendithiol ar y copaon.
Adroddiad gan Eryl Owain
Lluniau gan Eryl a Gethin ar FLICKR