HYRWYDDO MYNYDDA
DRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

 

 

Elusen gofrestredig rhif 1190243

Dolwyddelan i Fetws-y-coed 4 Ionawr


Er fod rhagolygon y tywydd yn addo cawodydd trwm a gwyntoedd cryfion, braf oedd croesawu tri-ar-hugain o aelodau i Fetws-y-coed i ddal y bws i Ddolwyddelan. Cychwyn y daith drwy ddringo yn raddol drwy’r goedwig dros Sarn yr Offeiriad ac allan i dir agored. Wedi paned dyma’r tywydd yn gwaethygu; glaw trwm a’r gwynt yn cryfhau.

Erbyn hyn roedd y llwybr yn eitha gwlyb a mwdlyd a doedd dim llawer o olygfa. Roedd pawb yn ymateb yn eitha positif er i ni golli Gwyn am ychydig yn y niwl!

Draw heibio Bryn Gefeiliau a Chae Amos ac at Tŷ Hyll.  Er bod y lle yn swyddogol wedi cau fe adawodd Mary (un o weithwyr Cymdeithas Eryri) i ni eistedd yn y tŷ i gael ein cinio.

Ymlaen ar hyd glan afon Llugwy a heibio Rhaeadr Ewynnol. Roedd yn ei anterth ar ôl yr holl law roeddem wedi ei gael. Y llwch dŵr (spray!) yn tasgu er ein pennau.

Seibiant a llun gan Gareth wrth Bont Newydd y Mwynwyr. Yr hen bont wedi ei chwalu yn racs gan li rhyw dair mlynedd yn ôl.

Diolch i bawb am eu cwmni a‘u brwdfrydedd er fod y tywydd yn dipyn o sialens ar adegau!

Adroddiad gan Arwel Roberts

Lluniau gan Gareth, Aneurin a Haf ar FLICKR