Yr Wyddfa a Moel Cynghorion 4 Chwefror
Dyma ffordd dawel, ddiarffordd o ddringo’r Wyddfa.
Gyda phawb wedi cyrraedd y maes parcio mewn da bryd, cychwynodd y pedwar ar ddeg ohonom i fyny llwybr Cwellyn yn brydlon. Dilynsom hwn nes ei adael ger Llyn Ffynnon-y-gwas, gan daro ar draws y gefnen i’w dde-orllewin, yna dringo i’r gogledd-ddwyrain o’r Afon Goch i mewn i Gwm Clogwyn. Bu’r niwl yn isel, ond fe gododd ychydig yma, gan adael i ni weld y tri llyn llonydd a’r creigiau sy’n eu hamgylchynu. Atmosfferig! Paned wrth Llyn Nadroedd, wedyn dringo’r ysgwydd serth y tu ôl iddo i gyfeiriad Llechog. Dilyn Llwybr Rhyd Ddu i gopa’r Wyddfa. Cinio yma, gan gysgodi ger Hafod Eryri rhag y gwynt, mewn amgylchiadau tra gwahanol i heddwch nefolaidd glannau Llyn Nadroedd! Cymryd Llwybr Cwellyn wedyn i lawr at Fwlch Cwm Brwynog, gan ddod allan o’r niwl wrth ddisgyn. Y rhan fwyaf o’r criw yn dringo’r clip serth i gopa Moel Cynghorion, yna mwynhau’r daith hamddenol ar hyd cefnen hir y mynydd hwnnw at Fwlch Maesgwm ac yn ôl at y ceir. Ymneilltuodd rhai i dafarn y Snowdonia Parc wedyn i roi clo ar y diwrnod!
Diolch am gwmni hwyliog y criw – Morfudd, Marged, Dylan, Gerallt a Dwynwen, Iolo, Sara a John, Sonia a Neil, Alice, Anne a Tegwen.
Adroddiad gan Elen Huws
Lluniau gan Gerallt a Sonia ar FLICKR